Perfformiad ailgylchu a thirlenwi ar yr agenda graffu

logoErs rhai blynyddoedd, mae craffu wedi bod yn cadw llygad ar berfformiad y cyngor wrth ailgylchu gwastraff a lleihau’r swm rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi. Rydym yn gwneud hyn drwy adroddiad blynyddol ar berfformiad i graffu. Mae’n bwnc pwysig oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi pennu rhai targedau heriol iawn i bob cyngor ailgylchu neu gompostio 70% o’r gwastraff mae’n ei gasglu erbyn 2025.

Bydd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, yn cwrdd â’r Panel Craffu Gwella Perfformiad a Chyllid, ddydd Iau, 4 Rhagfyr i drafod y perfformiad ailgylchu diweddaraf.

Cynhelir y cyfarfod am  3.30pm ddydd Iau, 4 Rhagfyr yn Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod. Ffoniwch y Tîm Craffu ar 01792 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk os ydych yn bwriadu bod yn bresennol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.