Edrych ar effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth

Wiew of Swansea City

Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu Twristiaeth ar 17 Tachwedd 2014 i ystyried adroddiad effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth a gynhaliwyd ym  mis Mehefin 2013. Diben y cyfarfod hwn oedd asesu effaith yr adroddiad a’i argymhellion. Rôl y panel oedd asesu beth sydd wedi newid ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cabinet, a yw’r argymhellion cytunedig wedi cael eu rhoi ar waith a beth oedd effaith yr ymchwiliad.

Roedd y panel yn falch o weld bod y Cynllun Rheoli Cyrchfannau wedi cael ei gwblhau ac yn cydnabod pwysigrwydd ei fod yn ddogfen fyw ac fe’u hanogwyd i weld twristiaeth fel mater a gaiff ei gydnabod yn ehangach fel mater trawsbynciol.

Roedd gan y panel ddiddordeb mewn clywed am sut yr ail-ganolbwyntiwyd gweithgarwch marchnata eleni o Uwch-gynghrair FA i ddigwyddiadau a dathliadau Canmlwyddiant Dylan Thomas a sut mae hyn wedi bod yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Cytunwyd hefyd ei bod yn bwysig iawn ymwneud yn fwy â’r byd digidol. Yn dilyn y buddsoddiad yn y wefan, mae’n galonogol gweld y llwyddiant ar-lein o ran y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymweliadau ar-lein, yn arbennig ymwelwyr unigryw â’r wefan.

Un o nodau pwysig y cyfarfod oedd canfod faint o effaith gafodd yr ymchwiliad. Yn hyn o beth, roedd y panel yn falch bod yr ymchwiliad wedi cyfrannu’n ddefnyddiol at drafodaeth bwysig am dwristiaeth yn Abertawe. Roeddent yn arbennig o falch o glywed bod yr ymchwiliad wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Rheoli Cyrchfannau, yn enwedig o ran datblygu ymagwedd drawsbynciol ar draws y cyngor ac yn ehangach gyda rhanddeiliaid. Roedd clywed canmoliaeth i natur gynhwysfawr yr adolygiad a’r profiad cadarnhaol a arweiniodd at ddatblygiad yn y momentwm hefyd yn galonogol iawn.

Yn gyffredinol, roedd y panel yn hapus y cyflawnwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion ac yn fodlon bod gwaith y panel bellach wedi dod i ben.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.