Mae gwasanaeth gofal cartref y cyngor i bobl h?n yn wynebu heriau aruthrol. Yn ogystal â’r galw cynyddol a geir gan boblogaeth sy’n heneiddio, mae pwysau cyson i leihau cyllidebau’r cyngor. Er mwyn diwallu’r heriau hyn, mae’r cyngor eisiau helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn cymryd camau i wneud hyn. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a luniwyd yn ddiweddar gan y Panel Ymchwiliad Craffu Gofal Cymdeithasol yn y Cartref, mae angen gwneud llawer mwy.
Mae’r gwasanaeth gofal yn y cartref yn un hanfodol i lawer o bobl h?n yn Abertawe. Mae’n darparu help gyda phethau fel codi a mynd i’r gwely, ymolchi, gwisgo, prydau a meddyginiaeth.
Mae adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu – Creu Gwasanaeth Annibyniaeth – yn darparu nifer o argymhellion am sut y gall y cyngor wneud ei wasanaethau gofal cymdeithasol i bobl h?n yn addas ar gyfer y dyfodol.
Meddai Cynullwr y Panel, y Cynghorydd Uta Clay,
Gofal cymdeithasol i oedolion, ynghyd â thai fforddiadwy i bawb a chludiant cyhoeddus sy’n addas at y diben, sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau ein pobl o ddydd i ddydd. Mae datblygiadau rhyfeddol gofal meddygol yn golygu bod llawer mwy o bobl yn byw’n hwy na chenhedlaeth yn ôl.
Ond mae brath yn y newyddion da: gan fod angen cefnogaeth ar fwy o bobl h?n i gael bywyd o safon, mae pwysau am ehangu gwasanaethau cefnogi i alluogi pobl i aros yn annibynnol am gyhyd ag y bo modd ac osgoi gorfod cael gofal mewn lleoliad sefydliadol fel ysbyty neu ofal preswyl.
Wrth gefnogi ymagwedd gyffredinol y cyngor, mae’r panel yn cynnig y dylid gwneud mwy i helpu pobl h?n i gadw eu hannibyniaeth fel rhan o’u gwasanaeth gofal o ddydd i ddydd. Wrth lunio’i adroddiad, edrychodd ar sut mae cynghorau eraill a grwpiau gwirfoddol yn gweithio’n wahanol i wneud hyn.
Yn benodol, mae’r Cabinet yn edrych ar ddod â’r system ‘amser a thasg’ bresennol i ben. Mae’r system hon yn cynnwys y cyngor yn prynu pecynnau gofal gan gwmnïau annibynnol. Mae’r cwmnïau hyn yn cyflogi gofalwyr i ymweld â chartrefi pobl am gyfnodau penodol i ddarparu help gyda thasgau megis prydau neu feddyginiaeth. Yn ogystal ag elfennau gofal yr ymweliadau hyn, hoffai’r panel weld ymagwedd fwy hyblyg sy’n edrych ar amrywiaeth ehangach o faterion.
Hefyd, crëwyd argraff dda ar y panel gan Fodel G?yr – menter ar y cyd rhwng y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd i sicrhau gweithio’n agosach gan weithwyr proffesiynol gwahanol. Roedd y panel yn cefnogi cynlluniau’r cyngor i gyflwyno’r model hwn ar draws gweddill Abertawe.
Wrth ddatblygu ei gasgliadau a’i argymhellion, clywodd y panel gan swyddogion y cyngor, staff iechyd, darparwyr preifat a grwpiau gwirfoddol megis Age Cymru Bae Abertawe, Canolfan Gofalwyr Abertawe a’r Groes Goch Brydeinig. Hefyd, ymwelodd y panel â phobl h?n yn eu cartrefi ac mewn canolfannau dydd.
Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys:
- y dylai’r gwasanaeth ailalluogi, sy’n helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth, gael ei ehangu a’i ddatblygu
- Dylai’r gwasanaeth gofal cartref fynd o system ‘amser a thasg’ i un sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Dylai’r gwasanaeth ar y cyd a ddarperir gan y cyngor a’r gwasanaethau iechyd gael ei gyflwyno ar draws ardal Abertawe fel a fwriadwyd
- Dylid gwarchod canolfannau dydd a seibiant lle bynnag y bo modd
- Dylai gwybodaeth am y gwasanaeth gofal cartref gael ei gwella
- Nodir y cyflog byw yng nghontractau gofalwyr a delir
Yn fuan, caiff yr adroddiad ei gyflwyno i Gabinet y cyngor a fydd wedyn yn ymateb i bob un o’r argymhellion ac yn rhoi cynllun gweithredu ar waith ar gyfer yr argymhellion hynny a gytunir.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn yn yr archif adroddiadau craffu.
Clod llun: https://flic.kr/p/4uVVAi
Leave a Comment