Cyfarfod Craffu ar y Gyllideb ar 5 Chwefror

Budget - creative commons flickr

Cynhelir cyfarfod y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ddydd Iau 5 Chwefror am 12pm yn Ystafell Bwyllgor 2, Canolfan Ddinesig. Bydd y Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd y Cyngor) a Phennaeth Cyllid y Cyngor yn ateb cwestiynau gan gynghorwyr a’r cyhoedd am gynigion sydd â’r nod o arbed £81 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae’r cyfan yn digwydd cyn cynnal cyfarfod y cyngor llawn ar 24 Chwefror lle caiff y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ei phennu.

Bydd y Panel yn rhoi ei ganfyddiadau a’i arsylwadau mewn llythyr at yr Arweinydd fel y gellir eu hystyried pan fydd y Cabinet yn cwrdd i drafod y gyllideb ar 10 Chwefror.

Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Os hoffai pobl ddod i ofyn cwestiwn, dylent ffonio’r Tîm Craffu ar 636292. Gellir cyflwyno cwestiynau drwy e-bost (craffu@abertawe.gov.uk), dros y ffôn neu yma ar dudalen y blog craffu.

 

llun trwy garedigrwydd: Creative Commons Flickr

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.