8 peth a ddysgom gan Gynulliad Cymru am gynnwys y cyhoedd

2015-02-22 20.32.05

Mae’r blog hwn yn crynhoi rhai o’r pethau a ddysgom mewn sesiwn arfer da gyda Chynulliad Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd o fudd i graffwyr sy’n edrych ar sut i wella cynnwys y cyhoedd.

Gwybodaeth am y sesiwn

Aeth y Tîm Craffu, ynghyd â’r Cynghorwyr Mary Jones a Paxton Hood-Williams, i Gaerdydd am y diwrnod i glywed am sut mae’r Cynulliad yn cynnwys y cyhoedd yn ei waith. Roedd Dyfrig Williams o Arfer Da Cymru yn rhan o’r sesiwn hefyd a daeth â’i gamera fideo gydag ef i  ffilmio rhai o’r uchafbwyntiau.

Roedd y diwrnod yn sgwrs anffurfiol gyda phobl wahanol yn mynd ac yn dod. Er ein bod yn dod o wahanol haenau o lywodraeth, gwnaethom ganfod fod gennym lawer o bethau’n gyffredin. Yn ymarferol, roeddem yn gallu rhannu awgrymiadau defnyddiol ar bethau megis sesiynau holi ac ateb gydag aelodau’r cabinet a’r modd y cynhelir ymchwiliadau manwl.

Yn gyffredinol, roedd yn gyfle dysgu gwych i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i Kevin Davies a’i gydweithwyr am drefnu’r diwrnod ac am roi o’u hamser mor hael. Roedd hefyd yn hyfryd gweld Peter Black AC a Mike Hedges AC a ddaeth draw i gyfrannu at y sesiwn.

Dyma rai pwyntiau dysgu o’r diwrnod – rwy’n gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi. Yn sicr byddwn yn myfyrio arnynt i wella ein harfer.

  1. Peidiwch â rhoi’r gorau i chwilio am ffyrdd newydd i gynnwys y cyhoedd

Mae sesiynau fel hyn yn ein hatgoffa eich bod yn dysgu am gynnwys yn barhaus. Gwnaethom ddysgu am bethau newydd i’w defnyddio, megis:

  • Gwe-sgyrsiau â thestun yn unig drwy ddefnyddio Google Hangouts
  • Creu fideos gydag iPads
  • Defnyddio hysbysebion Facebook i hyrwyddo ymchwiliadau craffu
  1. Sgyrsiau yw ymchwiliadau craffu, nid prosiectau ymchwilio ffurfiol

Er yr hoffem wneud gwaith craffu sy’n fanwl gywir yn academaidd, mae’n rhaid i ni gydnabod bod ymchwiliadau craffu yn wahanol i waith ymchwil ffurfiol. Cynhelir gwaith craffu mewn amgylchedd gwleidyddol. Defnyddir tystiolaeth gan swyddogion sydd, mwyaf tebyg, ag elfen o duedd yn yr hyn maent yn ei wneud ac mae’n rhaid i’r gwleidyddion cysylltiedig fod yn bresennol pan gesglir tystiolaeth. Os cesglir tystiolaeth ar ran y gwleidyddion ac yna adrodd yn ôl arno, ni fydd fyth mor wir iddynt, ni waeth pa mor fanwl yw’r adborth.

Tystiolaeth wyneb yn wyneb yw’r dystiolaeth fwyaf pwerus.

Cyfres o sgyrsiau llai a gaiff eu crynhoi ar y diwedd yw ymchwiliadau mewn gwirionedd. Eto, y craffwyr sy’n penderfynu beth a ddefnyddir o’r sgyrsiau llai hyn pan fyddant yn trafod y canlyniad terfynol fel gr?p.

  1. Mae ymchwiliadau craffu’n ychwanegu gwerth drwy ddefnyddio mwy na’r ffynonellau traddodiadol

Gwelsom sut mae ymchwiliadau craffu’r Cynulliad yn caniatau i aelodau’r pwyllgor siarad â phobl na fyddent yn siarad â hwy fel arfer. Yn sicr, dyma oedd ystyr cynnwys y cyhoedd yn ei hanfod. Gallai craffwyr ehangu eu gwybodaeth a pharatoi cwestiynau gwell drwy sgwrsio â phobl y tu allan i gylch arferol y Cynulliad.

Mae cynnal y sgyrsiau hyn yn golygu gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Clywsom am aelodau’r pwyllgor yn cwrdd â phobl mewn ardaloedd menter ac mewn lleoliadau cymunedol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â thlodi. Yna byddant yn cynnal sesiynau anffurfiol a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl yn anhysbys. Roedd rhai sesiynau yn ‘answyddogol’ a oedd yn gyfle i glywed safbwynt gwerthfawr na fyddent efallai wedi’i gael fel arall.

  1. Aelodau’r pwyllgor sy’n gyfrifol am arwain cynnwys y cyhoedd

Clywsom fod cynnwys y cyhoedd yn ddiwylliant newydd i bwyllgorau’r Cynulliad a bod ehangu y tu hwnt i gylch y Cynulliad wedi datblygu o fod yn eithriad i fod yn rhywbeth cyffredin iawn.

Roedd aelodau’r pwyllgor yn dysgu trwy wneud. Trwy roi cynnig ar bethau newydd, roeddent wedi dod yn fwy agored i ymagweddau newydd. Roedd cael hyder mewn gwneud pethau’n wahanol hefyd yn golygu bod ymchwiliadau’n fwy hyblyg.

  1. Meddyliwch am ‘bwy’ cyn meddwl am ‘sut’

Roeddem yn hoffi bod ymchwiliadau craffu bob tro’n dechrau gyda dau gwestiwn tebyg i’r rhai canlynol:

 phwy rydych chi angen siarad?

Sut rydych chi’n mynd i siarad â hwy?

Fel ni, mae’r Cynulliad yn ystyried sut gallant roi’r ‘defnyddiwr’ wrth wraidd yr hyn maent yn ei wneud a sut i greu gweithgareddau cynnwys y cyhoedd sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddiwr. Buom yn rhannu ein profiadau gyda phethau megis straeon defnyddwyr a mapio llwybrau defnyddwyr.

Clywsom am sut mae fideo’n cael ei ddefnyddio i rannu adborth o waith craffu a buom yn trafod defnyddio crynodebau byr o adroddiadau y mae’n hawdd eu rhannu.

  1. Mae cynnwys y cyhoedd yn gofyn am waith tîm corfforaethol

Clywsom am sut mae’r Cynulliad yn creu tîm integredig ar gyfer pob ymchwiliad. Mae’r tîm hwn, sy’n cefnogi gwaith cynllunio a chyflwyno cynnwys y cyhoedd, yn cynnwys rhywun o’r adran gyfathrebu a’r adran gyfreithiol, yn ogystal â rhywun o’r is-adran bwyllgorau.

Yn sicr gallwn ddysgu o’r gwaith integredig hwn er mwyn darparu cefnogaeth sy’n fwy llawn a chynhwysfawr.

  1. Paratowch ymlaen llaw er mwyn gallu dechrau’r gwaith craffu’n syth

Gwelsom fod gwaith paratoi trylwyr yn cael ei wneud cyn ymchwiliadau er mwyn i bwyllgorau allu dechrau ar y gwaith yn syth. Roedd hyn yn cynnwys siarad â sefydliadau oedd yn gyfarwydd â’r mater ynghylch pwy y gallai’r pwyllgor gysylltu â hwy a sut y gellid eu cynnwys.

Roedd gwaith oddi ar-lein yn cael ei wneud o dan yr wyneb hefyd er mwyn llywio’r gwaith ar-lein. Enghraifft o hyn yw paratoi pobl i gymryd rhan mewn gwe-sgyrsiau.

Un awgrym da arall a ddysgom oedd cyhoeddi’r cwestiynau a gesglir gan y cyhoedd ymlaen llaw ar gyfer sesiynau holi aelod y cabinet. Roedd hyn yn helpu’r pwyllgor ac aelod y cabinet i baratoi.

  1. Mae adborth yn gylch parhaus

Rydym yn gwybod bod yr elfen hon o gynnwys y cyhoedd yn bwysig, ond nid ydym yn llwyddo i’w wneud yn iawn bob tro. Roedd yn ddiddorol, felly, cael clywed am:

  • Y defnydd o fideo a Storify i ddarparu adborth
  • Crynhoi adroddiadau terfynol hir i greu darnau o adborth sy’n haws i’w rheoli
  • Cynnwys dyfyniadau pobl mewn adroddiadau a dangos iddynt eu bod yno
  • Adrodd yr ymchwiliad ‘fel stori’ o safbwynt y bobl yr effeithir arnynt
  • Rhoi straeon i’r cyfryngau am ddigwyddiadau a phobl – nid prosesau

Roedd hwn yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn ac yn enghraifft wych o sut mae gweld sut mae pobl eraill yn gweithio’n gallu cefnogi dysgu a datblygu.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.