Gwneud craffu’n fwy hwylus i ddefnyddwyr

pubspage

Rydym wedi cyflwyno tudalen gyhoeddiadau newydd ar gyfer craffu ac rydym yn meddwl ei bod hi’n ffordd dda o wneud y broses yn fwy agored, tryloyw a hygyrch.

Gallwch ddod o hyd i’r dudalen yma.

Rydym bellach yn defnyddio’r dudalen hon i gyhoeddi holl becynnau agendâu craffu, llythyrau ac adroddiadau ac atebion y Cabinet i’r adran graffu.

Trefnu a chwilio

Mae hidlwyr ar ochr y dudalen yn eich galluogi i ganfod cyhoeddiadau fesul pwnc, y math o gyhoeddiad neu gyfarfod. Mae hyn yn fwy hwylus i ddefnyddwyr yn hytrach na’r ffordd draddodiadol o drefnu gwybodaeth ddemocrataidd ar wefannau cynghorau – ni fydd rhaid i chi fynd yn ôl a blaen i ddilyn darn o waith.

Nid yw’n ffordd newydd o wneud pethau – rydym yn dilyn yr un dull â Gov.uk a Swyddfa Archwilio Cymru. Yr hyn sydd efallai’n newydd yw ein bod yn rhannu gwaith craffu yn y ffordd hon. Efallai fydd y dull hwn yn well ar gyfer holl gyhoeddiadau democratiaeth y cyngor yn y dyfodol?

Rhannu gwaith paneli a gweithgorau

Y prif reswm am gyflwyno’r dudalen hon oedd sylw gan Swyddfa Archwilio Cymru bod llawer o’r gwaith craffu yn Abertawe’n anodd i’r cyhoedd ei weld. Mae gennym un system bwyllgorau a chynhelir y rhan fwyaf o waith craffu drwy baneli a gweithgorau anffurfiol. Nid yw’r gwaith yn cael ei gyhoeddi drwy wedudalennau pwyllgorau ffurfiol y cyngor ac eithrio drwy bapurau pwyllgorau craffu ac nid yw’r rhain bob amser yn hawdd edrych drwyddynt.

Gwnaethom benderfynu defnyddio’r dull hwn ar ôl gwneud gwaith stori defnyddiwr ar yr wybodaeth rydym yn ei darparu. Rydym yn meddwl bod y dudaln yn arbennig o ddefnyddiol wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac er mwyn i bobl allu gweld hanes darn o waith neu banel mewn un lle.

Rydym yn dal i gyhoeddi popeth mewn fformat pdf ac rydym yn gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol. Byddai’n well torri pethau i lawr ymhellach fel y gall pobl ei rannu a’i ddefnyddio fel data agored. Mae hwn yn rhywbeth rydym am weithio arno a meddwl amdano yn y dyfodol.

I wella hygyrchedd pdfs, rydym wedi llunio crynodeb iaith glir i’r cyhoedd ar gyfer ein holl gyhoeddiadau ac yn cynnwys hyn ar bob gwedudalen. Mae’r syniad hwn, sef gwneud adroddiadau’r cyngor yn fwy hwylus, o ganlyniad i ddigwyddiad Notwestminster .

Rydym bellach yn cynnwys crynodeb ar frig pob adroddiad, llythyr a phecyn agenda.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.