Y camau nesaf ar gyfer Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Bydd Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cwrdd am 4.30pm, ddydd Mawrth, 27 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgor 3, Y Ganolfan Ddinesig.

Yn ystod ei gam datblygu, cytunodd y panel mai’i ddull dewisol o ddatblygu’i gynllun gwaith ar gyfer 2015/16 fydd dewis her Bwrdd Gwasanaethau Lleol i ymchwilio’n fanwl iddo, gan bwysleisio effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth yn gyffredinol drwy ganolbwyntio ar faes penodol.

Dewisodd y panel flaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol o Annibyniaeth Pobl H?n fel ei bwnc manwl cyntaf.

Y cwestiwn trosgynnol y mae’r panel yn ceisio mynd i’r afael ag ef yw, “Pa wahaniaeth y mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe’n ei wneud i ddinasyddion?” Y cwestiynau allweddol y bydd y panel yn eu harchwilio er mwyn ei gynorthwyo wrth ateb y cwestiwn hwn (yng nghyd-destun cyfraniad y Bwrdd Gwasanaethau Lleol at fynd i’r afael â her Annibyniaeth Pobl H?n) yw:

  • A lwyddodd y BGLl i newid y ffocws o brosesau ac allbwn i effaith gwasanaethau ar les pobl a chymunedau? Sut byddwn yn gwybod hyn?
  • I ba raddau y mae’r BGLl wedi sicrhau bod y flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar?
  • A yw’r BGLl wedi annog integreiddio dyfnach ar draws darparwyr gwasanaethau yn y maes hwn ac a yw hyn wedi arwain at brofiadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau?
  • A yw’r BGLl wedi sicrhau’r defnydd gorau o wasanaethau drwy fwyafu cyfleoedd cydymdrechu a lleihau’r risg o ddyblygu gwastraffus?
  • Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod comisiynu’n strategol ac yn amlwg yn gysylltiedig â thystiolaeth o angen?

Bydd y panel yn cynnal nifer o sesiynau casglu tystiolaeth gan ddechrau gyda briff trosolwg gan aelod perthnasol o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y pwnc a ddewiswyd. Bydd Chris Sivers, cyfarwyddwr pobl, yn dod i’r cyfarfod i roi trosolwg i’r panel o flaenoriaeth Annibyniaeth Pobl H?n.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, bydd y panel yn cyflwyno’i gasgliadau a’i argymhellion i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol trwy lythyr ffurfiol gan y cynullydd i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Gallai hyn hefyd gynnwys adroddiad manylach pe bai’r panel yn credu bod angen hynny.

Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Os hoffai pobl ddod i ofyn cwestiwn, dylent ffonio’r Tîm Craffu ar 636292. Gellir cyflwyno cwestiynau drwy’r e-bost craffu@abertawe.gov.uk, dros y ffôn neu yma ar dudalen y blog craffu.

Foto: https://www.flickr.com/photos/usnationalarchives/4727569980/in/photolist-8cL2Rf-9UdZ71-8cL1Gj-9UdRNJ-4Vwvbp-5LjyEm-9zR

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.