Sut mae panel ymchwilio craffu cynnwys y cyhoedd wedi gwneud gwahaniaeth

Mae’r ymchwiliad craffu cynnwys y cyhoedd wedi newid y ffordd mae’r cyngor yn cynnwys grwpiau gwahanol o bobl ac yn ymgynghori â nhw.

  1. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, gr?p o brif ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus Abertawe, bellach yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus.
  2. Bydd darparu adborth i bobl a gymerodd ran mewn ymgynghoriadau bellach yn ofyniad yn y strategaeth ymgynghori a chynnwys newydd.
  3. Bydd strategaeth cynnwys gweithwyr newydd yn atgyfnerthu ymrwymiad y cyngor i gynnwys staff, cyfathrebu, cynnwys ac adborth.

Pan gyfarfu Aelod y Cabinet, â’r panel yr wythnos ddiwethaf i siarad am effaith yr ymchwiliad, dywedodd fod yr ymchwiliad wedi helpu i ddod â ffocws i gyflawni boddhad cwsmeriaid gwell i breswylwyr, gan wella Lleisiau Abertawe trwy ddefnyddio teclyn olrhain enw da a dadansoddiad cyflymach o’r data a gwella cynnwys cynghorwyr, staff a phreswylwyr.

Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd dangos lle mae craffu wedi ychwanegu gwerth, cael yr effaith fwyaf neu annog newid.  Ond, yn yr achos hwn, pwyntiodd Aelod y Cabinet i newid y gellir ei ddangos o ganlyniad uniongyrchol i waith y panel.  Pan fo hyn yn digwydd, mae’n ategu hyder cynghorwyr craffu oherwydd eu bod yn gallu gweld y gwahaniaeth gweladwy y mae eu gwaith wedi’i wneud.  Dyma un o lawer o ffactorau sy’n gallu gwneud craffu’n effeithiol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.