Beth nesaf ar gyfer Craffu Perfformiad Ysgolion?

5850264509_667d3f2b86_o

Mae gan y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ddau gyfarfod wedi’u trefnu cyn y Nadolig ac rydyn ni’n eich croesawu i ddod i wrando ar y drafodaeth.  Mae’r rhain yn cynnwys:

3 Tachwedd am 4pm (Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas) – bydd y panel yn edrych ar ddwy eitem:

  • Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgol – hoffai’r panel ddatblygu cysylltiadau gwell ag eraill sy’n gweithio i reoleiddio a gweithio gydag ysgolion ac amlygwyd y Pwyllgor Archwilio fel enghraifft.  Bydd cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn Abertawe hefyd yn bresennol i gymryd rhan yn y drafodaeth.
  • Adroddiad cynnydd y Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad – edrych ar y cynnydd sy’n deillio o’r arolygiad Estyn flwyddyn ar ei ôl.

3 Rhagfyr am 4pm (Ystafell Gyfarfod 3B yn Neuadd y Ddinas) – Bydd y panel yn edrych ar:

  • Berfformiad Addysg Blynyddol a fydd yn cynnwys cyrhaeddiad, presenoldeb disgyblion a data gwaharddiadau.
  • Trosolwg o effaith toriadau cyllideb ar addysg ac ysgolion gydag Aelod y Cabinet dros Addysg a Chadeirydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion

Darllenwch fwy yn http://www.swanseascrutiny.co.uk/2015/10/23/whats-next-for-schools-performance-scrutiny/#m8GUKarW3fc1JW46.99

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.