Pam ydym ni’n craffu cyn penderfynu?

Craffu cyn penderfynu yw’r broses sy’n galluogi cynghorwyr craffu i ymgysylltu â’r Cabinet cyn iddynt wneud penderfyniadau, ac mae rhesymau da dros pam y dylai hyn ddigwydd.

  1. Mae’n gyfle i ymgynghori â chynghorwyr anweithredol cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad.
  2. Mae’n galluogi’r cynghorwyr craffu i gynyddu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o faterion penodol.
  3. Mae’n cyfrannu at rôl craffu fel “cyfaill beirniadol” i ofyn cwestiynau am benderfyniadau Cabinet sydd ar ddod.
  4. Mae’n gyfle gwerthfawr i’r adran graffu gyfeirio penderfyniadau a dylanwadu arnynt trwy drafod a herio.

 

Bydd Cynghorwyr Craffu Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion yn gwneud peth cyn penderfynu yr wythnos nesaf, ddydd Llun 11 Ionawr, ar yr adolygiad o Wasanaethau Dydd Abergelli a The Beeches, sy’n argymell cyfuno’r 2 wasanaeth.  Teimlodd y cynghorwyr craffu fod angen rhywfaint o graffu cyn penderfynu cyn gwneud y penderfyniad i amrywio a newid y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.

 

Unwaith i’r cynghorwyr drafod yr adroddiad gydag Aelod y Cabinet yr wythnos nesaf, byddant yn lleisio’u barn a’u hargymhellion i’r Cabinet er mwyn sicrhau yr ystyrir y rhain gydag adroddiad y cabinet.

 

Os hoffech fwy o wybodaeth am hyn neu’r cyfarfod yr wythnos nesaf, gallwch gysylltu â ni ar y blog neu e-bostio’r tîm craffu ar scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.