Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid?

Cynhelir cyfarfod nesaf y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid am 11.00am ddydd Mercher, 20 Ionawr 2016 yn Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas.

Bydd Cynghorwyr Craffu’n edrych ar ddwy brif eitem ar yr agenda, sy’n cynnwys Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer yr 2il Chwarter ac Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer yr 2il Chwarter.

Bydd Richard Rowlands, y Rheolwr Gwella Corfforaethol, yn cyflwyno’r Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer yr 2il Chwarter i’r panel. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys canlyniadau perfformiad ar gyfer ail chwarter 2015/16 wrth gyflwyno blaenoriaethau allweddol y cyngor a ddisgrifir yn y Cynllun Corfforaethol. Bydd Cynghorwyr Craffu’n ystyried ac yn adolygu canlyniadau perfformiad ar gyfer ail chwarter 2015/16, gan gynnwys Ymrwymiadau Polisi ynghyd â sefyllfa ariannol gyfredol y cyngor.

Cyflwynir Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer yr 2il Chwarter i’r panel.

gan Ben Smith, Prif Gyfrifydd. Mae’r adroddiad yn manylu’r amrywiadau a ragwelir o’r gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer 2015/16, gan gynnwys yr asesiad diweddaraf o gyflwyno arbedion. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r panel ystyried yr adroddiad yn fanylach a’u cynorthwyo i ddeall y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2015/16.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod neu os ydych yn dymuno gofyn cwestiwn, rhowch wybod i’r Tîm Craffu naill ai drwy ymateb i’r blog hwn, e-bostio craffu@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.