Cyfarfu cynghorwyr â 15 cynrychiolydd o wahanol Ganolfannau Cymunedol ar draws Abertawe ar 18 Mai er mwyn cael eu barn a’u gwybodaeth am sut i gynnal ased cymunedol. Mae cynghorwyr o Banel Craffu Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy yn ymchwilio i Weithredu yn y Gymuned, gan gynnwys sut gallwn gynorthwyo cymunedau i gynnal gwasanaethau ac asedau na all y cyngor eu rheoli mwyach.
Cafodd y panel gyfarfod bywiog lle rhoddodd pawb eu barn ar yr hyn a allai atal pobl rhag rheoli gwasanaethau a’r hyn a fyddai’n helpu cymunedau i reoli a chynnal ased cymunedol.
Roedd rhai o’r materion a drafodwyd yn cynnwys:
- Gwerth a phwysigrwydd y gefnogaeth a’r arbenigedd sydd ar gael gan y cyngor a sefydliadau eraill.
- Pwysigrwydd argaeledd hyfforddiant ar agweddau ar reoli ased cymunedol, gan gynnwys diogelwch tân, iechyd a diogelwch, sefydlu pwyllgor.
- Barn y gymuned a’r cyngor ar wirfoddolwyr.
- Gwerthfawrogi gwirfoddolwyr a chynyddu proffil gwirfoddoli.
- Ymrwymiad a chyfranogaeth cymunedau mewn gwasanaethau. Os na fyddant yn cymryd rhan, gallant golli’r asedau/gwasanaethau hynny.
Bydd yr wybodaeth a gasglodd y panel yn y cyfarfod hwn yn cael ei hystyried ynghyd â’i waith arall yn ei gyfarfod nesaf ar 22 Mehefin lle bydd yr aelodau’n trafod yr argymhellion y byddant yn eu rhoi gerbron y Cabinet ar gyfer gwella effaith Gweithredu yn y Gymuned yn Abertawe.
Leave a Comment