Chwe pheth hanfodol y mae coed yn eu gwneud i ni

Mae coed yn rhan hanfodol o’r dirwedd drefol ac yn ddiweddar, clywodd cynghorwyr craffu yn Abertawe am waith pwysig y mae’r cyngor yn ei wneud i sicrhau bod coed yn cael eu gwarchod a’u cadw. Clywodd y cynghorwyr am hyn gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, a swyddogion o Wasanaethau Tirweddu a Pharciau’r cyngor.

Trafododd cynghorwyr bwysigrwydd cyfrifoldebau’r cyngor am gadw coed, a’r manteision sylweddol a geir yn sgîl coed trefol, gan gynnwys:

  1. Derbyn dwr glaw a lleihau perygl llifogydd
  2. Gwella’r dirwedd a bioamrywiaeth
  3. Cael gwared ar lygredd
  4. Gwella ansawdd aer
  5. Lleihau effaith llygredd s?n
  6. Dal carbon

Er enghraifft, mae’r lluniau cyn ac ar ôl isod yn dangos yr effaith niweidiol pan geir gwared ar goed o stryd (DS Daw’r enghraifft hon o Sheffield).

Avenue with trees

Llun trwy garedigrwydd Tom McGourty/SWNS

Avenue without trees

Llun trwy garedigrwydd Tom McGourty/SWNS

 

 

 

 

 

 

O ganlyniad i hyn, teimlwyd ei bod hi’n bwysicach nag erioed i’r cyngor sicrhau fod ganddo wasanaeth cadw coed effeithiol. Trafodwyd amrywiaeth o faterion ac o ganlyniad, maent wedi nodi nifer o argymhellion i gefnogi a gwella’r gwasanaeth , gan gynnwys:

  1. Ystyried darparu adnoddau dros dro ychwanegol i sicrhau fod yr adolygiad o Orchmynion Cadw Coed presennol yn cael ei gwblhau o fewn cyfnod byrrach.
  2. Nodi achos addas i’w erlyn lle’r aed yn groes i Orchymyn Cadw Coed, ac, os yw’n llwyddiannus, sicrhau ei fod yn cael cyhoeddusrwydd eang.
  3. Pan fo Gorchmynion Cadw Coed wedi’u torri, os nad yw’n bosib erlyn, sicrhau fod y gwasanaeth yn mynd ati’n syth i ailblannu neu wneud gwaith adfer ar draul y perchennog.
  4. Sicrhau fod Gorchmynion Cadw Coed yn cael eu rhoi ar dir y cyngor cyn iddo gael ei werthu.
  5. Darparu cynghorwyr (gan gynnwys cynghorwyr cymuned) â rhestr o Orchmynion Cadw Coed yn eu wardiau.
  6. Chwilio am ffyrdd i hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd coed ymhlith aelodau staff allweddol a’r cyhoedd.
  7. Cyfarwyddo’r Gwasanaeth Parciau i ddatblygu cynnig i sefydlu meithrinfa goed/blanhigion i liniaru costau prynu coed newydd ac ymchwilio a fyddai hyn yn gyfle masnachol dichonadwy.
  8. Sicrhau fod adrannau eraill y cyngor yn ailblannu coed yn lle’r rhai y cafwyd gwared arnynt yn ystod eu gwaith.
  9. Datblygu polisi coed ar gyfer y cyngor cyfan.

Mae cynullydd y gweithgor, y Cynghorydd David Cole, wedi ysgrifennu at y Cabinet â’r argymhellion hyn, a disgwylir ymateb ar ddechrau mis Mehefin.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.