TRAWSNEWID Y GWASANAETHAU I OEDOLION

Yn ôl ym mis Hydref 2014 sefydlwyd panel craffu er mwyn astudio’r newidiadau a oedd yn digwydd yn y gwasanaethau i oedolion er mwyn creu’r math o wasanaethau yr oedd eu hangen er mwyn diwallu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, cyllidebau sy’n llai a’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant.

Dros gyfnod o 18 mis, bu’r panel craffu o’r enw ‘trawsnewid y gwasanaethau i oedolion’, neu TASS, yn siarad gyda swyddogion, partneriaid ac aelodau’r cabinet, yn ymweld â chanolfannau gwasanaethau i oedolion ac yn cwrdd â gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Archwiliodd Cynghorwyr y panel TASS wybodaeth ariannol am gostau’r gwasanaethau, ac edrychwyd ar gynigion cyllideb ac adroddiadau ymchwil academaidd.

Ym mis Ebrill, cwblhaodd panel TASS ei waith gydag adroddiad byr i Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, a oedd yn manylu ei gasgliadau. Roedd y panel hefyd yn credu y byddai Aelod y Cabinet yn elwa o weld yr holl dystiolaeth yr oedd wedi ei chasglu. Gofynnodd y panel i Aelod y Cabinet ddefnyddio’i dystiolaeth a’i gasgliadau wrth ddatblygu’r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion. Mae Aelod y Cabinet wedi cytuno i ymateb i adroddiad y panel tua diwedd mis Mehefin.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.