Sut mae Ein Rhanbarth ar Waith yn perfformio yn Abertawe?

1 inclusion

Bydd y Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion yn cwrdd ar 14 Gorffennaf i drafod cynllun busnes Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar gyfer 2016-2019 gyda Phrif Weithredwr y corff rhanbarthol.

Mae’r Cynllun Busnes yn amlinellu gweledigaeth am welliant y rhanbarth, y mae Abertawe’n rhan ohono, sef,

“rhwydwaith o ysgolion sy’n perfformio’n gyson uchel ar draws y rhanbarth gyda phob ysgol yn dda ac yn cynnig safonau addysgu uchel dan arweinyddiaeth dda gyda’r holl ddysgwyr yn cyrraedd eu llawn botensial”.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, bydd y rhanbarth yn cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion drwy gefnogaeth, her ac ymyriad er mwyn iddynt ddod yn sefydliadau cadarn sy’n hunan-wella ac sy’n parhau i wella deilliannau i bob dysgwr.

Mae strategaeth ERW yn nodi’r disgwyliadau a’r heriau canlynol:

  • sicrhau perfformiad effeithiol ym mhob ysgol
  • herio perfformiad ysgolion yn gadarn ac yn gyson yngh?d â’r deilliannau i bob un o’u dysgwyr
  • rhoi system wahaniaethol o gefnogaeth broffesiynol i ysgolion ar waith sy’n gymesur â’r angen a nodwyd drwy fframwaith categoreiddio y cytunwyd arno’n genedlaethol
  • cefnogi strategaethau i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr
  • gwella deilliannau dysgwyr sydd dan anfantais
  • hwyluso cefnogaeth ysgol i ysgol effeithiol er mwyn gwella perfformiad a deilliannau
  • rheoli a defnyddio ymgynghorwyr herio sydd wedi’u hyfforddi’n dda i herio perfformiad a threfnu cefnogaeth bwrpasol

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu am graffu’n gyffredinol gallwch weld ein tudalennau we yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu e-bostiwch ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

 

llun gan www.thewhocarestrust.org.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.