Lleihau yn ddiogel nifer o blant sy’n derbyn gofal

Mae 493 o blant sy’n derbyn gofal bellach yng ngofal yr awdurdod ac mae’r nifer hwn wedi bod yn gostwng yn gyson dros y 6 mis diwethaf. Ers mis Chwefror, cafwyd 28 yn llai o blant sy’n derbyn gofal ac mae’r tîm yn amlwg yn gweithio’n galed i gael y canlyniadau da hyn.

Mae panel craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi bod yn monitro perfformiad y gwasanaethau plant a theuluoedd bob chwarter am y 3 blynedd diwethaf.Mae’r panel wedi craffu ar y maes hwn yn gyson am ei fod yn faes o alw uchel a gwariant uchel. Mae’n hanfodol y cynhelir y perfformiad da diweddar ac mae’r canlyniadau i blant yn well yn gyffredinol pan fyddant yn derbyn gofal mewn amgylchedd teuluol.

Bob tro mae’r panel yn craffu ar y data perfformiad mae’r rhan fwyaf o’i gwestiynau’n canolbwyntio ar ddeall sut mae’r adran yn lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal a sicrhau bod y gostyngiad parhaus mewn niferoedd yn gynaliadwy ac yn bwysicach fyth, yn ddiogel.Mae’r panel craffu’n fodlon iawn ar y perfformiad yn y maes hwn ac yn teimlo bod y gwasanaeth mewn sefyllfa dda i  barhau i leihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.