Lleisiwch eich barn ar y Strategaeth Trechu Tlodi

Trechu tlodi yw un o flaenoriaethau pwysicaf y Cyngor.

Mae ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n edrych ar ffyrdd y gall Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor gael ei gwella.

Dros y misoedd nesaf, bydd y Panel Ymchwiliad Craffu Strategaeth Trechu Tlodi yn ystyried sawl agwedd ar y gwaith i drechu tlodi a bydd yn ceisio ateb y cwestiwn ‘Sut gall Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor gael ei gwella?’

Gellir canfod y Strategaeth Trechu Tlodi yn ogystal â dogfennau cysylltiedig yma.

Cynhelir sawl sesiwn dystiolaeth gan y Panel, yn cynnwys:

  • Tystiolaeth safbwynt – I glywed am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim – 19 Medi (4pm, Ystafell 1.2.1 Canolfan Ddinesig)
  • Safbwynt y trydydd sector – I glywed gan gyrff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd mewn tlodi – 26 Medi (4pm, Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Ddinesig)
  • Safbwynt lles – I glywed gan aelodau’r panel Asesiad Effaith Integredig (AEI) am argymhellion yr AEI – 3 Hydref (4pm, Ystafell 1.2.1 Canolfan Ddinesig)
  • Safbwynt cymunedol – I glywed gan gyrff yn y gymuned sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd mewn tlodi – 13 Hydref (4pm, Ystafell 1.2.1 Canolfan Ddinesig)
  • Safbwynt cenedlaethol – Er mwyn deall gwersi gwaith gwrth-dlodi yng Nghymru/Ymchwiliad y Cynulliad – I’w gadarnhau
  • Safbwynt partneriaeth – I glywed gan gyrff am BGC/Fforwm Tlodi – I’w gadarnhau
  • Safbwynt y Cyngor – I ddeall sut mae’r strategaeth yn cael ei gweithredu ar draws y Cyngor gan Gyfarwyddwyr/Aelodau’r Cabinet/Penaethiaid Gwasanaethau – I’w gadarnhau
  • Safbwynt yr Uned Trechu Tlodi – I glywed gan yr Uned Trechu Tlodi –  I’w gadarnhau

Anogir y cyhoedd i fynychu ac i arsylwi ar y cyfarfod o’r oriel gyhoeddus. Gellir gweld yr agendâu drwy fynd i www.swansea.gov.uk/scrutinypublications

Crëwyd holiadur gan y Panel hefyd er mwyn clywed eich barn. Bydd yr holiadur ar agor tan 28 Hydref 2016. Cwblhewch yr holiadur trechu tlodi.

Gellir dod o hyd i fanylion pellach drwy’r adran galw am dystiolaeth.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.