Sut rydym ni’n sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd?

Photo credit: City & County of Swansea

Photo credit: City & County of Swansea

Mae cryn dystiolaeth ryngwladol o sbectrwm eang gan academyddion ac ymarferwyr blaenllaw y bydd buddsoddi yn y Blynyddoedd Cynnar yn torri’r cylch o anfantais drwy newid cyfleoedd bywyd plant fel eu bod nhw’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas ac, ar yr un pryd, leihau’r angen am wasanaethau adfer costus iawn ar draws y sector cyhoeddus.

Mae panel craffu newyddwedi’i sefydlu er mwyn ymchwilio i ba mor barod y mae plant i ddechrau’r ysgol yn Abertawe. Mae hyn yn sicrhau bod plant yn barod i ddysgu pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.

Bydd y Bwrdd yn siarad â:
– Rhieni/gofalwyr
– Lleoliadau Dechrau’n Deg/ysgolion cynradd
– Canolfan Deuluoedd
– Prosiect Partneriaeth meddygon teulu
– Ymwelwyr Iechyd
– Iechyd Cyhoeddus Cymru
– Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yngl?n a Phrosiect Ansawdd yn y Blynyddoedd Cynnar
– Aelod(au) y Cabinet a Swyddogion y Cyngor

At ddibenion yr ymchwiliad hwn, maen nhw wedi diffinio bod pa mor barod y mae plant ar gyfer yr ysgol yn ymwneud â phlant 0-5 oed, gan ymwneud yn benodol â hunanofal, llythrennedd, iaith a chymdeithasu. Edrychir yn benodol ar sut y mae’r cyngor a’i bartneriaid yn gweithio gyda rhieni i sicrhau bod plant yn barod ar gyfer yr ysgol.

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad hwn neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu am graffu’n gyffredinol, ewch i’n gwe-dudalennau yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu e-bostiwch ni ar craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.