Ysgol Gynradd San Helen yn rhoi dechrau teg i blant

Ymwelodd Cynghorwyr o’r Panel Ymchwiliad Craffu Pa mor Barod yw Plant i Fynd i’r Ysgol â sefydliad Dechrau’n Deg San Helen er mwyn darganfod sut mae’n paratoi ei ddisgyblion ar gyfer yr ysgol.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd a dargedir er mwyn cefnogi teuluoedd i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cefnogi dwys i blant 0-3 oed a’u teuluoedd.

Roedd aelodau’r panel yn awyddus iawn i glywed am yr arfer rhagorol y mae Dechrau’n Deg San Helen yn ei ddangos wrth weithio gyda rhieni a’r gymuned leol. Maent yn gweithio’n agos gyda rhieni a’r gymuned i adeiladu perthnasoedd â’r ysgol, sy’n golygu fod yr ysgol wrth wraidd y gymuned. Mae rhai o’r pethau y mae’n ei wneud yn cynnwys:

  • ymgysylltu â rhieni er mwyn meithrin ymddiriedaeth fel y gallant gael mynediad i’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael
  • cynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n ddisgwyliedig o’u plentyn fel eu bod yn gallu ei helpu i ddatblygu yn y cartref hefyd
  • cyfathrebu’n effeithiol â rhieni, gan gynnwys cyfarfodydd croeso rheolaidd a staff sydd ar gael bob dydd
  • cyflogi Arweinydd Cynnwys Rhieni sy’n gweithio gyda theuluoedd, yn enwedig teuluoedd newydd, er mwyn dod i’w hadnabod, datblygu ymddiriedaeth a dealltwriaeth, ac esbonio disgwyliadau’r ysgol.

Roedd rhieni’n teimlo bod yr ysgol a Dechrau’n Deg yn agored ac yn hawdd mynd atynt. Meddai rhieni fod y cymorth a’r arweiniad yn help mawr iddynt, yn enwedig o ran datblygu sgiliau cymdeithasol a iaith plant. Dywedon nhw hefyd fod cael mynediad i Ymwelydd Iechyd ar y safle’n gadarnhaol iawn.

Meddai’r staff fod rhieni a’r gymuned yn gefnogol iawn o sefydliad Dechrau’n Deg a’r ysgol.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y blog hwn neu am graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Llun trwy garedigrwydd: Dechrau’n Deg San Helen

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.