A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio rhanbarthol yn Abertawe? Ymchwiliad craffu newydd yn dechrau’n fuan

pic: cfps.org.uk

Ers peth amser mae Llywodraeth Cymru wedi gweld cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn arbennig fel modd o ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol.Nododd y cynghorwyr hwn yn fater caffael pwysig mewn cynhadledd ar gyfer cynghorwyr craffu ym mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn, mae Panel Craffu wedi’i sefydlu a byddant yn cwrdd ar 2 Hydref i ystyried ‘sut gall y cyngor a’i bartneriaid ddatblygu a gwella gweithio rhanbarthol er lles Abertawe a’i thrigolion?’

Bydd y cyfarfod ar 2 Hydref yn weithgor cyn-ymchwiliad lle bydd y cynghorwyr yn derbyn adroddiad ac yn trafod y prif faterion â swyddog perthnasol y cabinet a swyddog y tîm rheoli corfforaethol.Yna bydd y cynghorwyr yn trafod cynllun yr ymchwiliad ac yn cytuno arno, gan gynnwys edrych ar bwy yr hoffent siarad â hwy a pha dystiolaeth yr hoffent ei chasglu.

Effaith yr ymchwiliad a fwriedir fydd cefnogi gwaith y cyngor drwy:

  • lunio egwyddorion cyffredinol ar gyfer datblygu
  • Argymell cynigion ar gyfer gwella yn y tymor hir, canolig a byr
  • Cyflwyno safbwynt cynghorydd am ba mor dda mae’n gweithio
  • Creu cynigion â thystiolaeth a fydd yn arwain at weithio rhanbarthol fwy effeithiol a gwell gwasanaethau i breswylwyr yn y pen draw
  • Gwella dealltwriaeth cynghorwyr o weithio rhanbarthol a sut y mae’n cyfrannu at waith y cyngor yn Abertawe
  • Cyfeirio at enghreifftiau o arfer da a rhannu barn gwahanol bobl sy’n rhan o’r prosiect hwn

Cyhoeddir yr agenda yn ystod yr wythnos cyn y cyfarfod ac mae’n bosib dod o hyd iddi ar wefan y cyngor yma.

Yn dilyn y cyfarfod ar 2 Hydref, bydd y cynghorwyr yn ‘galw am dystiolaeth’ a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a sefydliadau partner gyfrannu at yr ymchwiliad hwn.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu, ewch i’n gwedudalennau craffu yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.