Galw am weithredu: Ymchwiliad Craffu i weithio rhanbarthol

pic: cfps.org.uk

Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau a fydd yn edrych ar weithio rhanbarthol.Dros y misoedd nesaf bydd y panel yn ymchwilio i agweddau ar weithio rhanbarthol ac yn ceisio mynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol canlynol ‘Sut gall y cyngor, gyda’i bartneriaid, ddatblygu a gwella gweithio rhanbarthol er lles Abertawe a’i thrigolion?’

Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:

  • Ers peth amser mae Llywodraeth Cymru wedi gweld cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn arbennig fel modd o ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol
  • Mae gan gydweithio broffil uwch nag erioed o’r blaen.Mae’n rhan ganolog o agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus Cymru er mwyn ymateb i’r heriau a gyflwynir o ganlyniad i dynhau cyllid gwasanaethau cyhoeddus. CLlLC
  • Mae Cynghorwyr wedi bod eisiau cyflawni’r darn hwn o waith er mwyn creu darlun ac i gael gwell dealltwriaeth o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn y maes hwn
  • Mae’r Cynghorwyr eisiau edrych ar y prosesau craffu sy’n cael eu datblygu yn y partneriaethau rhanbarthol

Llwybrau Ymholi

Bydd y panel yn canolbwyntio’n benodol ar y cwestiynau canlynol:

  1. Darlun Abertawe: beth yw’r darlun rhanbarthol wrth iddo effeithio ar Abertawe ar hyn o bryd? Beth yw’r cynigion ar gyfer y dyfodol? Beth yw’r nod?
  2. Darlun ariannol beth rydym yn cyfrannu ato’n ariannol ar hyn o bryd? Sut rhagwelir iddo newid yn y dyfodol?
  3. Partneriaid rhanbarthol: Y perthynas ar hyn o bryd rhwng Abertawe a’i bartneriaid rhanbarthol? Beth yw’r rhwystrau i wella hyn?
  4. Effaith: beth yw effaith gweithio rhanbarthol ar Abertawe a’i phreswylwyr hyd yn hyn?
  5. Craffu: pa ddulliau craffu sydd wedi’u hymgorffori yn nhrefniadau llywodraethu partneriaethau rhanbarthol?
  6. Deddfwriaeth a Chyfarwyddeb:beth yw’r dylanwadau ar weithio rhanbarthol drwy gyfarwyddebau/polisïau/deddfwriaethau cenedlaethol a lleol?
  7. Arfer Da: oes enghreifftiau da o arfer effeithiol mewn gweithio rhanbarthol a sut rydym ni a’n partneriaid yn eu defnyddio er mwyn gwella?

Sut mae rhoi’ch barn…?

Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno’u tystiolaeth ysgrifenedig drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk 15 /12/17. Efallai y bydd y panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth.  Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad fel arfer. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny’n glir wrth ei chyflwyno.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.