Cynghorwyr Craffu Abertawe’n Ystyried Ffïoedd Meysydd Parcio yn Abertawe

Mae cynghorwyr craffu’n bwriadu cwrdd ar 28 Tachwedd i drafod ffïoedd meysydd parcio yn Abertawe. Maent wedi cael cylch gorchwyl gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu i sefydlu gweithgor untro i drafod problemau a gofyn cwestiynau am ffïoedd a darpariaeth meysydd parcio ar draws Abertawe gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad gwasanaethau a chynlluniau i’w gwella.

Bydd y gweithgor yn cwrdd ag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd a swyddogion perthnasol y cyngor. Dyma rai o’r cwestiynau mae’r gweithgor yn bwriadu eu gofyn:

  1. Pa ddatblygiadau sydd yn yr arfaeth ar gyfer safleoedd parcio newydd a gwell yn Abertawe ac, yn benodol, yng nghanol y ddinas?
  2. Sut rydym yn ystyried parcio wrth gynllunio’r datblygiadau newydd ar gyfer canol y ddinas?
  3. Beth yw’r costau am gynnal a chadw a gweithredu meysydd parcio yn Abertawe, gan gynnwys dadansoddiad o’r ffïoedd?
  4. Sut mae’r cyngor yn cymharu ag eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill a’r sector preifat?
  5. Beth fydd effaith y ffïoedd parcio cynyddol/newidiol?

Bydd cyfle gan y cyhoedd i roi tystiolaeth yn y cyfarfod yn yr adran cyflwyniadau cyhoeddus ar y dechrau rhwng 4.00pm a 4.30pm. Bydd y gweithgor yn mynd ymlaen i siarad ag Aelod y Cabinet a’r swyddogion am eu hadroddiad a’r cwestiynau mae’r panel wedi’u codi.

Os hoffech chi wybod mwy am y gweithgor hwn neu os hoffech chi gyflwyno tystiolaeth a/neu ddod i’r cyfarfod, gallwch gysylltu â ni yn craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.