Canolbwyntio ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Mae gan Gyngor Abertawe Banel Craffu amlasiantaeth sydd â’r nod o ddarganfod pa wahaniaeth y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe  (BGC) yn ei wneud ar gyfer dinasyddion.

 

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfrifol am wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn Abertawe drwy gryfhau gweithio ar y cyd ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus.

Ffotograff: Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae’r Panel yn canolbwyntio ar berfformiad y BGC ac mae’n cynnwys edrych ar:

 

  • Effeithiolrwydd Asesiad Lles y BGC
  • Effeithiolrwydd Cynllun Lles y BGC
  • Pa mor dda mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bodloni ei ddyletswyddau lles a pha mor dda mae’n ystyried y saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio
  • Effeithiolrwydd trefniadau mesur perfformiad
  • Lefel yr ymrwymiad i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan bartneriaid unigol
  • Effeithiolrwydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth gyfathrebu ei waith, ei amcanion a’i ganlyniadau i’w randdeiliaid
  • Effeithiolrwydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r mater o gyllid cronnol er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau

 

Cyfarfu’r panel ar 30 Awst 2017 am y tro cyntaf eleni lle cafwyd y cyfle i drafod Asesiad Lles Abertawe 2017.  Yn dilyn y cyfarfod hwn, ysgrifennodd Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Mary Jones at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cynghorydd Rob Stewart, gyda’i farn am yr asesiad a datblygiad y Cynllun Lles.

 

Mae’r Panel hefyd yn monitro llwyddiannau ac effaith blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn gweithio arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar ffrydiau gwaith Cam-drin Domestig, Heneiddio’n Dda a’r Blynyddoedd Cynnar.

 

Craffodd y Pwyllgor ar y Cynllun Lles Drafft  sydd wedi’i ddatblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 13 Rhagfyr 2017. Mae’r Cynllun bellach yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus tan 13 Chwefror 2018 ac achubodd aelodau’r panel ar y cyfle i gyflwyno sylwadau. Adroddir yn ôl ar y cynllun drafft terfynol i’r panel cyn cytuno arno.

 

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Panel hwn gallwch ddod o hyd i fanylion am bob cyfarfod ar wefan Cyngor Abertawe.   Mae’r holl ohebiaeth sydd wedi’i hafon gan y Panel at y Cynghorydd Rob Stewart, ynghyd  a’i ymatebion, wedi’u cyhoeddi yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.