Craffu ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Wyddech chi fod Panel Craffu Perfformiad penodol i ddarparu her parhaus i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion?

 

Mae newid mawr yn digwydd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac maent yn wynebu pwysau ariannol sylweddol oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio a galw uchel. Rôl y panel yw derbyn adroddiadau perfformiad perthnasol a gofyn amdanynt er mwyn monitro a herio asesiadau am berfformiad ac ansawdd y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Dyma weledigaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion:

 “Bydd gan bobl yn Abertawe fynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol modern a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau bodlon gydag ymdeimlad o les mewn teuluoedd cefnogol a chymunedau cadarn. Byddwn yn helpu pobl i aros yn ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac yn rhoi cyfleoedd iddynt deimlo bod ganddynt y grym i fynegi barn, dewis a rheolaeth ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Bydd ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a galluogi. Byddwn yn rhoi gwell cefnogaeth i bobl, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael gyda chefnogaeth ein gweithlu hynod fedrus a gwerthfawr.”

 

Mae’r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, y Cynghorydd Mark Child, gan godi materion o bryder, sylwadau ac argymhellion fel y bo’n briodol, yn dilyn cyfarfodydd o’r panel. Mae hefyd yn adrodd am gynnydd yn rheolaidd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu

 

Mae’r panel yn cwrdd yn fisol ac yn ogystal â monitro perfformiad, mae’r panel hefyd wedi trafod pynciau gan gynnwys:

 

  • Y blaenoriaethau a’r heriau allweddol i’r Gwasanaethau i Oedolion yn Abertawe
  • Sut mae ymrwymiadau polisi’r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion
  • Rheoli Galw gan gynnwys Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
  • Trosolwg o Raglen Bae’r Gorllewin
  • Atal gan gynnwys Cydlynu Ardaloedd Lleol a Chefnogi Pobl.

 

Disgwylir i’r panel gwrdd ar ddechrau mis Chwefror i drafod Cyllideb Ddrafft y cyngor.

 

Er mwyn cael gwybodaeth am yr holl gyfarfodydd a’r trafodaethau, mae agendâu a nodiadau cyfarfodydd ar gael yma. Yno hefyd ceir yr holl lythyrau a ysgrifennwyd gan y Cyng. Peter Black, cynullydd Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion.  Os ydych yn meddwl bod rhywbeth y dylai’r panel fod yn craffu arno, rhowch wybod i ni.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.