Felly beth yw ein sefyllfa gyda’r Ymchwiliad Craffu i Weithio Rhanbarthol?

Mae’r Ymchwiliad Craffu i Weithio Rhanbarthol bellach yn gwneud cynnydd da. Mae’r cynghorwyr wedi cwrdd â chyfarwyddiaethau gwahanol y cyngor i drafod, mewn manylder, y gweithgareddau gweithio rhanbarthol sy’n cael eu cynnal. Ym mis Chwefror bydd y panel yn cwrdd â rhai o’r partneriaid sydd wedi’u nodi drwy’r broses hon, gan gynnwys: Bae’r Gorllewin, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), y Fargen Ddinesig, y Bartneriaeth Wastraff a Phartneriaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru. Bydd yr ymchwiliad yn dechrau dod i ben tua chanol mis Mawrth pan fydd y panel yn ystyried ei ganfyddiadau cyn gwneud argymhellion mewn adroddiad i’r Cabinet.

Ers peth amser mae Llywodraeth Cymru wedi gweld cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn arbennig fel modd o ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Nododd y cynghorwyr fod hwn yn fater craffu pwysig mewn cynhadledd ar gyfer cynghorwyr craffu ym mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn, sefydlwyd Panel Craffu ar 2 Hydref i ystyried sut gall y cyngor a’i bartneriaid ddatblygu a gwella gweithio rhanbarthol er lles Abertawe a’i thrigolion?’

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad hwn, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni erbyn 15 Mawrth yn craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.