Cymryd camau dilynol ac edrych ar effaith yr Ymchwiliad Craffu i Ba mor Barod yw Plant i Fynd i’r Ysgol

Bydd yr Ymchwiliad Craffu i Ba mor Barod yw Plant i Ddechrau’r Ysgol yn cwrdd eto ar 27 Mawrth 2018 i edrych ar yr effaith a’r cynnydd a wnaed gyda’r argymhellion y cytunodd y Cabinet arnynt o ganlyniad i’r darn hwn o waith.

Ymgymerodd y panel â’r ymchwiliad yn 2017 a arweiniodd at lawer o argymhellion y cytunodd Cabinet y cyngor arnynt ar 15 Mehefin 2017.

Bu’r panel yn ystyried y canlynol:

  • Beth yw ystyr gwella pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol yn ymarferol? Yr hyn sy’n rhan o ddatblygu pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol, gan gynnwys er enghraifft: hunanofal, llythrennedd, iaith a chymdeithasu.
  • Achos ac effaith: Beth yw effaith pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol ar eu perfformiad addysgol tymor hir? Am ba resymau nad yw plant yn barod i fynd i’r ysgol? A ddylid cael gwaelodlin sy’n diffinio pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol?
  • Partneriaid/perthnasoedd proffesiynol: Pwy sy’n rhan o pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol yn Abertawe, ac ydyn nhw’n cydweithio’n effeithiol er mwyn cyflawni’r nod hwn?
  • Gweithio gyda theuluoedd: Sut ydym ni a’n partneriaid yn gweithio gyda theuluoedd i helpu i wella pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol yn Abertawe?
  • Effaith: Beth oedd effaith y mentrau hynny sydd wedi helpu i ddatblygu pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol?
  • Arfer Da: Pa arweiniad ac enghreifftiau o arfer da sydd ar gael i wella pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol?

Cytunodd y panel ar nifer o argymhellion o ganlyniad i’r darn hwn o waith a chytunodd y Cabinet arnynt. Roedd rhai o’r rhain yn cynnwys:

  • Cefnogi’r mentrau hynny sy’n amlwg yn gwella pa mor barod yw plant i fynd i’r ysgol a monitro eu heffaith.
  • Cefnogi ethos ac arfer Dechrau’n Deg a defnyddio hyn fel sail i ddatblygu gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig (gyda’r nod tymor hwy o ddarparu gwasanaeth ar draws Dinas a Sir Abertawe).
  • Gweithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn barod i dderbyn plant a’u bod yn croesawu eu holl ddisgyblion.

Cyhoeddir agenda’r cyfarfod hwn wythnos cyn y cyfarfod a bydd ar gael ar-lein.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.