Beth sy’n digwydd ym myd craffu addysg yn Abertawe?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 am 2.00pm

Bydd y panel yn cynnal cyfarfod craffu cyn penderfynu (ystyried adroddiad y Cabinet cyn gwneud penderfyniad) ar newidiadau i’r Gwasanaeth Lleiafrifoedd Ethnig a Chyflawniad. Yna bydd yn cyflwyno’i farn ar y newidiadau hynny i’r Cabinet ar 19 Gorffennaf.

Dydd Llun 10 Medi 2018 am 10.30am

Bydd dau Gynghorydd yn cynrychioli’r panel ar Gr?p Cynghorwyr Craffu Rhanbarthol Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Mae’r gr?p hwn yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn ac yn edrych ar gyrhaeddiad addysg yn rhanbarthol, gan weithredu fel ffrind beirniadol i Gydbwyllgor ERW.

Dydd Iau 27 Medi 2018 am 4.00pm

Bydd cynghorwyr yn edrych ar y safonau newydd i athrawon ac arweinwyr ysgol, Perfformiad Gwella Addysg a chynnydd ERW yn erbyn blaenoriaethau’r cynllun busnes yn lleol ac yn rhanbarthol.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.