Beth mae Cynghorwyr Craffu’n bwriadu ei ystyried eleni?

Mae rhaglen waith newydd bellach wedi’i chytuno, gyda dewis amrywiol o bynciau y mae cynghorwyr yn bwriadu eu hystyried dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n dangos materion strategol a phryderon cymunedol er mwyn sicrhau bod craffu’n ystyried y pethau cywir ar bob adeg. Ond cyn hynny, ychydig am ein taith hyd yn hyn…

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu. Bob blwyddyn rydym yn gwahodd pob cynghorydd craffu i gymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol ar flaenoriaethau craffu, ac yn gwahodd awgrymiadau.  Mae bob amser yn bwysig edrych yn ôl ar y cynllun blaenorol, ystyried blaenoriaethau corfforaethol y cyngor, a meddwl am farn y cyhoedd, sy’n cael ei chasglu gennym drwy ymgynghoriadau amrywiol.

Cyfrifoldeb Pwyllgor y Rhaglen Graffu, wedi’i gadeirio gan y Cynghorydd Mary Jones, yw cytuno ar raglen waith. Gan nodi adborth o’r gynhadledd ac egwyddorion arweiniol (strategol a sylweddol, sy’n canolbwyntio ar bryderon, ac yn cynrychioli defnydd da o amser ac adnoddau craffu), cytunodd y pwyllgor ar y rhaglen yn ei gyfarfod ar 9 Gorffennaf.

Nododd y pwyllgor y pwysigrwydd o alinio gwaith craffu’n fwy agos gyda’r blaenoriaethau corfforaethol, ond gan gadw cydbwysedd fel y gellir edrych ar bryderon y gymuned.

Y rhaglen waith newydd

Cytunodd y pwyllgor i barhau â’r Paneli Perfformiad blaenorol, sy’n cynnwys

  1. Gwella Gwasanaethau a Chyllid – cyfarfod misol, Cynullydd y Cyng. Chris Holley
  2. Ysgolion – cyfarfod misol, Cynullydd y Cyng. Mo Sykes
  3. Gwasanaethau i Oedolion – cyfarfod misol, Cynullydd y Cyng. Peter Black
  4. Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – cyfarfod bob deufis, Cynullydd y Cyng. Paxton Hood-Williams
  5. Datblygu ac Adfywio – cyfarfod bob deufis, Cynullydd y Cyng. Jeff Jones
  6. Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (cyfarfod amlasiantaeth) – cyfarfodydd chwarterol, Cynullydd y Cyng. Mary Jones

Mae’r pwyllgor yn disgwyl cwblhau dau ymchwiliad manwl yn ystod y flwyddyn ddinesig hon; un ymchwiliad ar yr Amgylchedd Naturiol ac un ar Gydraddoldebau, a nodwyd un arall a fyddai’n ymchwilio i Adfywio Cymunedau. Bydd angen casglu amrywiaeth o dystiolaeth a bydd hyn yn arwain at adroddiad terfynol gyda chasgliadau ac argymhellion i’r Cabinet.

Mewn perthynas â Phwyllgorau untro, nodwyd rhestr o faterion a byddant yn flaenoriaethau er mwyn mynd i’r afael â nhw dros y flwyddyn nesaf.

  1. Parcio i Breswylwyr
  2. Llygredd Sn ac Aer
  3. Diwygio Lles
  4. Gorfodi Amgylcheddol
  5. Twristiaeth
  6. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  7. Cynhwysiad Digidol
  8. Gwasanaeth Archifau

Bydd y pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod aelodau’r cabinet yn atebol am eu gwaith, ac mae wedi datblygu amserlen sesiynau holi ac ateb ar gyfer pob un o’i gyfarfodydd misol.

Caiff Abertawe ei gynnwys hefyd mewn dau Gorff Craffu Rhanbarthol:

  • Ein Rhanbarth ar Waith – Mae craffu Abertawe’n rhan o drefniant craffu rhanbarthol gyda’r chwe chyngor yn rhan o gonsortiwm gwella ysgolion ‘Ein Rhanbarth ar Waith’ (ERW). Sefydlwyd Gr?p Cynghorwyr Craffu er mwyn cydlynu gwaith craffu ar draws y rhanbarth a sicrhau ymagwedd gyson. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Medi 2018, gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe – Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Craffu’n ddiweddar, sy’n cynnwys tri chynghorydd i gynrychioli’r pedwar cyngor sy’n gysylltiedig â’r Fargen Ddinesig i graffu ar waith y Cyd-bwyllgor sy’n gyfrifol am gyflwyno Rhaglen y Fargen Ddinesig. Gwasanaethir y cyd-bwyllgor
    gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac fe’i trefnir yn fuan.

 Byddwn yn blogio eto ar y gweithgareddau craffu allweddol a gynhelir a’u heffaith, felly cadwch lygad amdano!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.