Cabinet Abertawe’n cytuno ag argymhellion Craffu ar gyfer Gweithio Rhanbarthol

Cytunodd Cabinet y cyngor gyda phob un o’r 11 o argymhellion a nodwyd o ganlyniad i’r Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol yn y cyfarfod ar 16 Awst 2018. Mae’r Cabinet wedi ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad, neu’n bwriadu ymateb iddynt, yn y ffyrdd canlynol:

  1. Ailstrwythuro’r uwch-reolwyr, a gymeradwywyd gan y cyngor ar 21 Mehefin, a fydd yn atgyfnerthu gallu rheolwyr y cyngor i sicrhau bod yr agenda cydweithio rhanbarthol yn cael ei symud ymlaen yn rhagweithiol gan Abertawe, wrth adael i’r cyngor reoli ei raglenni uchelgeisiol sy’n seiliedig ar y blaenoriaethau corfforaethol.
  2. Nodi’r hyn maent wedi’i ddysgu (gan gynnwys pwyntiau dysgu a nodwyd gan y panel) ar draws y tri phrif gydweithrediad rhanbarthol a chreu cynllun(/iau) gweithredu gyda goblygiadau ar adnoddau er mwyn ymateb i unrhyw rwystrau penodol sy’n weddill.
  3. Adolygu trefniadau llywodraethu am y 3 prif bartneriaeth: Ein Rhanbarth ar Waith, Bae’r Gorllewin a’r Fargen Ddinesig – er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.
  4. Parhau i asesu budd i’r cyngor o fod yn rhan o bartneriaethau sy’n bodoli neu bartneriaethau newydd, gan gynnwys dadansoddi costau a buddion.
  5. Arolygu defnydd Skype rhwng partneriaid er mwyn lleihau teithio ac amser swyddogion a chynghorwyr, ac annog mwy o gyfranogiad gweithio mewn partneriaeth.
  6. Parhau i gynnwys y trydydd sector mewn partneriaethau sy’n bodoli.
  7. Parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i symleiddio’r broses grantiau
  8. Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r cyngor ar y cynnydd a wnaed ar draws y prif gydweithrediadau rhanbarthol: Ein Rhanbarth ar Waith, Bae’r Gorllewin a’r Fargen Ddinesig.

Bydd aelodau’r Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol yn ceisio mynd ar drywydd y cynnydd a wnaed gyda’r argymhellion hyn rhwng 9 a 12 mis. Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi yn y blog hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.