Cynghorwyr Craffu’n canmol cynnydd yn Ysgol Arbennig Crug Glas

Ymwelodd Cynghorwyr o’r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ag Ysgol Arbennig Crug Glas, gan gwrdd â’r Pennaeth, aelodau o staff a dau lywodraethwr.

Roedd y panel yn hapus iawn i glywed am eu taith i wella, canlyniad cadarnhaol ail arolygiad Estyn a’r cyflymdra wrth wneud gwelliannau yn yr ysgol. Llongyfarchodd y Cynghorwyr staff yr ysgol a’r llywodraethwyr am eu hymroddiad, ac mae’r panel yn credu bod hwn wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant wrth symud ymlaen mor gyflym.

Clywodd y Cynghorwyr am gymorth y Pennaeth Ymgynghorol, y Gwasanaeth Gwella Ysgolion a’r Tîm am yr Ysgol a sut yr oedd hwn yn llwyddiant cadarn ac yn fodel gwych ar gyfer y dyfodol pan fydd ysgolion o bosib yn wynebu sefyllfaoedd heriol.

Roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed am yr holl sylwadau cadarnhaol gan Estyn pan ymwelwyd â’r ysgol ym mis Ebrill 2018, yn enwedig fod ‘y tîm arweinyddiaeth presennol yn effeithiol iawn wrth ysgogi gwelliant yr ysgol. Hefyd ers yr arolygiadau craidd, gosodwyd pwyslais priodol gan yr uwch-arweinwyr ar wella sut mae athrawon yn bwriadu datblygu sgiliau disgyblion mewn ffordd flaengar. Mae gan yr addysgu ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau disgyblion ar gyflymdra a lefel sy’n cael eu haddasu i’w hanghenion a’u galluoedd unigol.’

Cytuna’r panel hefyd â’r datganiad fod ‘uwch-arweinwyr wedi rhoi ymagwedd strategol ar waith i wella safonau a darpariaeth yn yr ysgol wrth gynnig cyfleoedd gwerthfawr i’r holl staff i arsylwi a rhannu arfer da’. Teimlwn y bydd hyn yn allweddol wrth i’r ysgol barhau i wella.

Roedd y Cynghorwyr yn awyddus i glywed am arferion da yn yr ysgol a hoffent weld mwy o ddefnydd o’r arbenigedd hwn i lywio arferion mewn ysgolion prif ffrwd. Yn benodol wrth ddiwallu anghenion addysgol plant ag ADHD/anhwylder y sbectrwm awtistig.

Dywedodd y Llywodraethwyr a’r Pennaeth eu bod yn hapus iawn gyda’r cymorth a ddarparwyd iddynt gan yr awdurdod lleol, y Gwasanaeth Gwella Ysgolion a’r Pennaeth Ymgynghorol.

Clywodd y Panel fod blaenoriaethau’r cyrff llywodraethu wrth symud ymlaen yn cynnwys ymrwymiad cryf i ddatblygu, cefnogi a herio parhaus. Dywedodd y Llywodraethwyr eu bod wedi gofyn am gyfnod o sefydlogrwydd tan fis Medi 2019 gan y bu cymaint o newid dros y blynyddoedd diwethaf, ac o fewn amser byddant yn archwilio’r opsiwn Ffedereiddio yn fanwl.

Diolchodd y Cynghorwyr yr ysgol, y Llywodraethwyr, y Pennaeth Ymgynghorol a’r Ymgynghorydd Herio am dreulio amser gyda nhw gan gynnig dymuniadau da iddynt ar gyfer y dyfodol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.