Beth sy’n digwydd ym myd craffu addysg yn Abertawe?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

Dydd Iau 15 Tachwedd 2018 am 4.00pm

Bydd Cynghorwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd datblygiadau gwasanaeth a gwella lleoliadau yn y gwasanaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Byddant hefyd yn derbyn y diweddaraf am gynnydd yn y Strategaeth Lles ac Ymddygiad.

Dydd Mawrth 11 Rhagfyr 2018 am 4.00pm

Bydd Cynghorwyr yn ystyried perfformiad y Gwasanaeth Gwella Addysg, Cynllun Busnes Ein Rhanbarth ar Waith a gwariant y Grant Amddifadedd Disgyblion i gefnogi disgyblion diamddiffyn.

Dydd Iau 17 Rhagfyr 2018 am 4.00pm

Craffu cyn penderfynu ar adroddiad arfaethedig y Cabinet ar 20 Rhagfyr ar gyfer yr Adolygiad o Ysgolion Bach a Threfniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â Chynllun y Gymraeg mewn Addysg.

Dydd Iau 17 Ionawr 2019 am 4.00pm

Bydd Cynghorwyr yn ystyried yr adolygiad perfformiad blynyddol a pherfformiad addysgol Plant Sy’n Derbyn Gofal, a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dydd Llun 11 Chwefror 2019 am 3.00pm

Bydd Cynghorwyr yn ystyried Adroddiad y Gyllideb Flynyddol gan ei fod yn ymwneud â materion addysg.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).  Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.