Ymchwiliad Craffu yn cloddio’n ddwfn i’r Amgylchedd Naturiol

Dros y flwyddyn ddiwethaf dechreuodd Ymchwiliad Craffu ystyried yn fanwl sut mae’r cyngor yn ymdrin â’r Amgylchedd Naturiol, a sut y maent yn bodloni eu gofynion dan y deddfau perthnasol. Fe wnaethant ystyried beth mae’r cyngor yn gwneud ar hyn o bryd a beth allent ei wella.

Fel rhan o’r ymchwiliad, gofynnodd y panel i aelodau o grwpiau amrywiol a oedd yn cynnal bioamrywiaeth yn Abertawe i roi eu syniadau ar gyfer gwella ac enghreifftiau o lwyddiant. Roedd y panel yn hapus iawn â’r ymatebion. Roedd y panel yn llawn edmygedd ac yn ddiolchgar iawn am yr amser a’r ymdrech a roddir gan wirfoddolwyr yn Abertawe sy’n frwdfrydig iawn am ardaloedd gwyrdd.

Sylweddolodd y panel yn fuan fod gwaith sylweddol yn cael ei gyflawni gan dîm ymroddedig iawn y cyngor, yn ogystal ag ymdrechion ysbrydoledig y gwirfoddolwyr, er mwyn cynnal a chadw a hyrwyddo’r amgylchedd naturiol yn Abertawe. Mae prosiectau blaengar sy’n amddiffyn y twyni tywod, ymdrechion i greu mannau sy’n llesol i wenyn a nifer fawr o arolygon ecolegol er mwyn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hamddiffyn o fewn cynllunio ac adfywio. Yn sicr, rydym yn arwain y ffordd.

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd gan staff, y cyhoedd a darparwyr allanol, datblygodd y panel set o gasgliadau ac argymhellion cefnogol. Roedd y rhain yn cynnwys syniadau am sut i wella pethau ymhellach neu ddatblygu prosiectau newydd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod Abertawe ar y blaen o ran gwella a chynnal yr amgylchedd naturiol.

Cyflwynwyd adroddiad llawn ac argymhellion yr ymchwiliad i’r Cabinet ym mis Mawrth. Disgwylir i’r Aelod Cabinet perthnasol ymateb i’r ymchwiliad trwy lunio cynllun gweithredu yn ystod cyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf. Yna, bydd y panel yn cymryd camau dilynol ar y cynllun gweithredu 9-12 mis yn ddiweddarach i weld sut mae pethau’n mynd.

Rydym yn edrych ymlaen at weld y pethau newydd a chyffrous a fydd yn digwydd yn Abertawe – clywsom fod y prosiect blodau gwyllt yn blodeuo’n wych!

Ewch i wefan Cyngor Abertawe i weld yr holl fanylion a thrafodaethau, gan gynnwys canlyniadau’r Panel Ymchwilio hwn. Gallwch gael y diweddaraf yngl?n â’r holl waith arall sy’n cael ei gyflawni gan gynghorwyr craffu yn Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.