Felly, beth sy’n digwydd ym maes Craffu ar Addysg?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Gwnaethant gwrdd yn ddiweddar i drafod y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddant yn bresennol yn y cyfarfodydd canlynol:

Dydd Iau 12 Medi 2019 am 4.00pm

Bydd cynghorwyr yn ystyried dwy eitem, Perfformiad y disgyblion sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim ac Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Dydd Iau 17 Hydref 2019 am 4.00pm

Bydd cynghorwyr yn cwrdd â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr ysgol gynradd leol i drafod eu taith wella.

Dydd Iau 14 Tachwedd 2019 am 4.00pm

  • Diben y sesiwn hon fydd ystyried Cenhadaeth Genedlaethol Cymru a datblygu cwricwlwm trawsnewidiol. Bydd cynghorwyr yn ystyried sut mae ysgolion yn ymateb i’r cwricwlwm drafft newydd a’r 4 amcan galluogi cysylltiedig
  • Menter Ysgolion Iach

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

I gael mwy o wybodaeth am y Tîm Craffu’n gyffredinol, ewch i’n gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.