Grwp Craffu ERW i gwrdd ym mis Medi

Bydd Cynghorwyr Craffu o’r chwe awdurdod lleol yn cwrdd 23/09/2019. Pwrpas y grwp yw helpu i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau i blant yn y Rhanbarth trwy gefnogi craffu effeithiol i

  1. gefnogi craffu cyson ar draws y chwe chyngor
  2. rhannu arfer da o ran craffu
  3. annog ymagweddau craffu a rennir ac osgoi dyblygu gwaith craffu
  4. rhoi her feirniadol a gwrthrychol i ERW ar bynciau o ddiddordeb yn ôl y galw
  5. cyfrannu i lywodraethu ERW mewn modd da ac effeithiol

Ar 23/09/2019, bydd cynghorwyr yn

  • Siarad â Phrif Weithredwr Arweiniol ERW am y cynnydd o ran y rhaglen ddiwygio, y strwythur llywodraethu sy’n dod i’r amlwg ynghyd â’r cynnydd a wneir wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd 
  • Sesiwn holi ac ateb gydag Arweinydd Systemau Digidol a Dysgu ERW
  • Sesiwn holi ac ateb gydag Arweinydd Iechyd a Lles ERW

Bydd copi o’r Agenda ar gael ar wefan ERW bythefnos cyn y cyfarfod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.