Cyngor mor barod ag y gall fod ar gyfer Brexit

Cyfarfu cynghorwyr craffu ar Weithgor Brexit ar 23 Medi i drafod cynlluniau’r awdurdod wrth baratoi ar gyfer Brexit.

Bydd y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd y Gweithgor yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart gyda chanfyddiadau’r gweithgor.

Sicrhawyd cynghorwyr craffu gan yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod ac roeddent yn teimlo bod yr awdurdod wedi gwneud yr hyn a all i baratoi ar gyfer Brexit. Hoffent weld yr awdurdod yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwaith da y mae’n ei wneud i gyfleu’r neges hon.

Roedd y gweithgor yn falch o glywed bod peth arian ar waith i helpu i ariannu paratoadau ar gyfer Brexit.Fodd bynnag, ni fydd hyn yn talu am yr holl gostau i reoli a monitro’r gwaith hwn ac awgrymodd cynghorwyr craffu y bydd angen i’r awdurdod edrych ar ffyrdd o gael yr arian hwn yn ôl.

Roedd cynghorwyr craffu hefyd yn teimlo’n bryderus am unrhyw argyfwng tanwydd posib oherwydd gallai hyn gael effaith enfawr ar gymunedau pe bai’n parhau am fisoedd. Eu prif bryder oedd sut y byddai’r cyhoedd yn gallu parhau i gael cludiant i’r gwaith yn ogystal â chael mynediad at wasanaethau brys. Cydnabu’r gweithgor na ddylai fod prinder tanwydd ond os bydd prynu gwyllt yna gallai hyn achosi prinder tanwydd, ac roeddent am wybod beth gallai’r awdurdod ei wneud i helpu.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan y gweithgor hwn ac unrhyw gyfarfodydd dilynol yn y dyfodol gan gynnwys yr holl lythyrau a anfonir ac a dderbynnir gan y Cabinet, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.