Datblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu

Cyfarfu Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion ar 24 Medi i drafod yr adroddiad gan y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda ar ‘Ddatblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu’.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

  • Crynodeb o broffil o ddarpariaeth y gwasanaethau byw â chymorth
  • Esboniad o’r rhaglenni ailgomisiynu sydd ar waith ar gyfer y gwasanaethau anableddau dysgu (AD) ac iechyd meddwl (IM)
  • Disgrifiad o’r gwasanaethau a ddatblygwyd yn ddiweddar a’r rheini sydd ar y gweill
  • Crynodeb o’r cyfleoedd rhanbarthol

Daeth yr Adroddiad i’r casgliad bod ‘y trefniadau’n addas at y diben’

Roedd y Cynghorwyr craffu ar y panel hwn yn gallu trafod a chwestiynu’r Cynghorydd Child a’r uwch-swyddogion yn y Gwasanaethau ynghylch y trafodaethau a gynhaliwyd ar ddechrau’r mis diwethaf gyda rhieni oedolion ag AD a rhieni oedolion â phroblemau IM ynghylch eu pryderon am y gwasanaethau gan gynnwys:

  • Diffyg cyfathrebu rhwng rhieni a darparwyr gofal
  • Nid ystyrir bod y cynlluniau na’r cytundebau gofal yn dryloyw a mynegodd nifer o rieni bryderon ynghylch y ffaith na allent weld cynlluniau gofal eu plant sy’n oedolion
  • Lefel uchel o drosiant staff gofal
  • Diffyg hyfforddiant i staff gofal
  • Ansefydlogrwydd o ganlyniad i newidiadau mewn rheolaeth a/neu ddarparwyr gofal yn effeithio ar les y defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y Cynghorydd Peter Black, cynullydd y Panel yn ysgrifennu at y Cyng. Child er mwyn myfyrio ar y cyfarfod a’r trafodaethau a gynhaliwyd.

I dderbyn y diweddaraf am y Panel hwn ac i ddarllen yr holl lythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.