Partneriaeth Sgiliau Abertawe

pic courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

Roedd y Panel Craffu Perfformiad Addysg yn meddwl bod y drafodaeth a gafwyd gydag aelodau  Partneriaeth Sgiliau Abertawe yn un ddefnyddiol iawn, gan eu helpu i ddeall y rôl, y cynnydd sy’n cael ei wneud a’r gwerth ychwanegol o gael y fath bartneriaeth yn Abertawe.

Gallwch weld fideo o’r cyfarfod yma: https://www.youtube.com/embed/IlakSASRkYc

Clywodd Cynghorwyr am y llwyfan digidol o’r enw ‘Fy Newis’ sydd wedi’i ddatblygu. Dywedwyd wrthynt bod yr holl gyngor ac arweiniad ar ddysgu galwedigaethol wedi bod mewn gwahanol leoedd tan nawr, a bellach gyda’r llwyfan hwn, gellir ei gyrchu mewn un lle.

Roedd y Panel yn falch o glywed mai’r bartneriaeth hon oedd yr union beth yr oedd gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg mewn golwg pan wnaeth ei argymhelliad i’r Cabinet yn 2018. Cytunodd y Panel â Chadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi pan ddywedodd y dylai elfen alwedigaethol fod yn rhan o brofiad addysgol pob plentyn.

Teimlai’r Panel ei bod hi’n bwysig cynnwys y gymuned fusnes yn y bartneriaeth a hoffai weld hyn yn cael ei ddatblygu. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau wrth y Panel mai cryfder y bartneriaeth yw cael sefydliadau’n rhan ohoni sy’n llwyr ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y gymuned fusnes, fel, er enghraifft, colegau sydd â chysylltiadau bwyd â chyflogwyr. Hefyd mae angen amgyffrediad ehangach o’r hyn fydd cyflogaeth yn y dyfodol, er enghraifft mae cyflogwyr am gael ymgeiswyr hyblyg, a chanddynt sgiliau trosglwyddadwy da sy’n gallu marchnata’u hunain.

Clywodd Cynghorwyr ei bod hi’n amser dechrau meddwl am yr hyn sydd nesaf i’r bartneriaeth. Bod angen cadw’r momentwm. Nodwyd bod pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) yn eitem y byddai’n elwa o ffocws gan y bartneriaeth. Codwyd yr enghraifft o waith da ar bobl ifanc NEET yn Ysgol Gyfun Pentrehafod, yr oeddem ni’n teimlo ei fod yn enghraifft o’r hyn y gall un ysgol ei chyflawni mewn partneriaeth, felly gyda chyfranogaeth yr holl bartneriaid, gellir gwneud llawer mwy.

Roedd Cynghorwyr yn falch o glywed am yr ymrwymiad, yr wybodaeth a’r profiad y gall aelodau unigol o’r bartneriaeth eu cynnig, a’r cydweithio i wella dysgu a chyfleoedd pobl ifanc yn Abertawe.

Roedd Cynghorwyr yn falch o glywed am yr effaith gadarnhaol y mae’r bartneriaeth yn ei chael mewn perthynas â dysgu digidol a’r llwyfan gyrfaoedd, ‘Fy Newis’. Mae’r Panel yn edrych ymlaen at weld sut bydd y bartneriaeth yn datblygu yn y dyfodol drwy adeiladu ar y sylfeini cynnar hyn. Pwysleision nhw bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned fusnes leol a’r angen i ystyried eu cynnwys yn y bartneriaeth yn y dyfodol. Cytunodd Cynghorwyr hefyd y byddai’n fuddiol iawn gweld ffocws ar bobl ifanc NEET a fydd yn faes hollbwysig y gall bob partner ddylanwadu arno.

Diolchodd y Panel bob aelod o’r bartneriaeth a ddaeth i’r cyfarfod, gan ddweud eu bod bellach yn gallu gweld llwybr cliriach ar gyfer dyfodol y bartneriaeth.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.