Mae Craffu’n ystyried canfyddiadau ynghylch mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar 24 Mawrth, a gwahoddwyd aelodau o Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion i fod yn bresennol, yn ogystal ag Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau a phrif swyddogion y gwasanaeth, er mwyn trafod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC): Mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDAS), gan gynnwys:

  • Sut mae’r awdurdod yn mynd i’r afael ag argymhellion adroddiad VAWDAS Swyddfa Archwilio Cymru
  • Y sefyllfa bresennol yn Abertawe
  • Meysydd i’w datblygu yn y dyfodol

Mae adroddiad Aelod y Cabinet yn rhoi ‘trosolwg o’r cynnydd a gafwyd mewn cam-drin domestig drwy gydol y pandemig a sut mae’r cydweithio rhwng y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Gwasanaethau i Oedolion a phartneriaid ehangach, yn mynd i’r afael â phroblemau ac yn ymateb i argymhellion SAC.’

Mynegodd y Panel ac Aelodau’r Cabinet a oedd yn bresennol eu diolch i swyddogion a staff ar draws yr awdurdod am eu gwaith caled wrth barhau i fynd i’r afael â VAWDASV yn ystod yr amserau anodd hyn.

Clywodd y Panel fod y cyngor wedi gwneud cynnydd da ac wedi bodloni’r pum argymhelliad cyffredinol a oedd yn rhan o adroddiad SAC. Roedd y Panel yn falch o glywed bod gwaith Abertawe mewn perthynas â’r Canolfan Cam-drin Domestig wedi ei grybwyll yn adroddiad SAC, a’i fod yn ffordd flaengar o weithio.

Trafododd y Panel faterion a oedd yn ymwneud â’r canlynol hefyd:

  • Pwyslais ar ddatblygu gwaith gyda’r rheini sy’n cyflawni troseddau cam-drin domestig
  • Plant yn Abertawe y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt
  • Dynion sy’n dioddef o gam-drin domestig a’r stigma sy’n gysylltiedig â hyn.

Cliciwch yma i weld rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.