Adolygodd cynghorwyr craffu ffigurau eithriadol a gyflwynwyd yn Adroddiadau Ariannol 2020-21

Adolygodd cynghorwyr Craffu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid y ffigurau eithriadol a gyflwynwyd yn Adroddiadau Ariannol 2020-21, gan gynnwys y cronfeydd wrth gefn o £50m oherwydd lefel ddigyffelyb y cyllid a’r grantiau digolledu a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig.

Yng nghyfarfod y Panel fis diwethaf, trafodwyd yr Alldro Refeniw, Alldro CTR ac Adroddiadau Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2020-21 gydag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart, y Prif Swyddog Cyllid a’r Swyddog Adran 151.

Amlygodd Swyddogion fod yr adroddiad Alldro Refeniw yn dangos graddfa enfawr yr arian a lifodd i mewn ac allan, i’r cyngor yn uniongyrchol a hefyd drwy’r cyngor fel Asiant Llywodraeth Cymru wrth ddarparu cymorth i fusnesau. Er gwaethaf y myfyrdodau cadarnhaol yn yr adroddiad, nododd y Panel fod canlyniadau economaidd y dyfodol yn parhau i fod yn aneglur ac nid yw’r effeithiau tymor hwy yn hysbys.

Clywodd y Panel fod y diffyg mewn Treth y Cyngor o £2.5m wedi’i niwtraleiddio o ganlyniad i iawndal grant gan Lywodraeth Cymru.

Amlygodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart, wrth y Panel fod y rhaglen gyfalaf fwyaf erioed yn parhau i symud ymlaen er gwaethaf heriau sy’n gysylltiedig â COVID, a bod Ysbyty Maes y Bae hefyd wedi’i adeiladu’n llwyddiannus o dan amserlenni dan bwysau. Ychwanegodd fod y datblygiadau hyn wedi digwydd ynghyd â pharhad datblygiadau mawr y ddinas, ochr yn ochr â chyfyngiadau’r cyfnod clo a thalodd deyrnged i’r holl staff a chontractwyr a fu’n rhan o’r gwaith.

Ar y cyfan, roedd y Panel yn falch o natur gadarnhaol y ffigurau a adroddwyd ac a gydnabuwyd a diolchodd i’r holl staff am eu hymdrechion a’u gwaith caled drwy’r heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chydnabuodd y tîm cyllid yn ei gyfanrwydd, a sicrhaodd fod taliadau’n cael eu prosesu i gefnogi’r economi ehangach yn ystod y pandemig.

I weld yr holl adroddiadau a gyflwynwyd a manylion y trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.