Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn parhau i ddal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i gyfrif drwy fonitro a herio ei berfformiad a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i ddinasyddion.

Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, clywodd y Pwyllgor gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru fel dau o bedwar aelod statudol y Bwrdd, am eu rôl, eu cyfrifoldebau a’u cynnydd o ran cyflawni amcanion lles penodol y BGC y maent yn arwain arnynt.

Roedd y trafodaethau a gafwyd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Effaith neu werth y BGC:
  • Materion sy’n ymwneud â llywodraethu’r BGC, diffyg adnoddau a chyllid
  • Datblygu Dangosyddion Perfformiad ar gyfer y BGC a gweld cynlluniau gweithredu i helpu i fonitro a mesur cynnydd
  • Effaith pandemig COVID-19 ar waith y BGC a chyllid

Bydd y Cynghorydd Peter Black, Cadeirydd y BGC, yn ysgrifennu at Gyd-gadeiryddion y BGC i fyfyrio ar y trafodaethau a gynhaliwyd a rhannu barn y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed.

Mae BGC Abertawe yn bartneriaeth o asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau lleol. Pedwar aelod statudol y Bwrdd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a Chyngor Abertawe.

Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnwys sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn lles yr ardal, er enghraifft yr heddlu a’r prifysgolion.

Mae’n ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnal Asesiad o Les er mwyn deall lefelau lles presennol a’r hyn sy’n bwysig i’r rhan fwyaf o gymunedau lleol, a llunio Cynllun Lles Lleol er mwyn gwella lles. 

Mae gan y BGC ddyletswydd statudol i ddal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i gyfrif.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.