Angen i newid canfyddiadau cyhoeddus a hyrwyddo buddion defnyddio gwasanaethau bysus yn well yn Abertawe

Ar 7 Gorffennaf, cyfarfu’r Gweithgor Gwasanaethau Bysus â’r Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a chynrychiolwyr First Cymru a Cardiff Bus i edrych ar yr ardaloedd a wasanaethir gan y rhwydwaith bysus a lefelau gwasanaeth yn Abertawe.

Dyma grynodeb o’r hyn a drafodwyd gan gynghorwyr craffu’r gweithgor hwn a’r materion a godwyd ganddynt.

Mynegodd y Gweithgor bwysigrwydd gwasanaethau bysus ac roeddent yn teimlo, os bydd newid moddol, yna rhaid mai cludiant cyhoeddus yw asgwrn cefn yr hyn a gaiff ei wneud.

Siaradodd yr aelodau am bwysigrwydd cael gwasanaeth bysus rheolaidd i bob ardal yn Abertawe i fynd i’r afael ag unigedd preswylwyr. Rhaid bod pobl sydd wedi rhoi’r gorau i yrru yn gallu gael mynediad at gludiant cyhoeddus neu gallant ddod yn garcharorion yn eu cartrefi eu hunain.  Ychwanegodd yr aelodau fod cyllid Teithio Llesol wedi’i ddefnyddio i’w gwneud yn haws i bobl feicio neu gerdded ond nid yw pawb yn gallu gwneud hyn a rhaid mai hygyrchedd yw’r prif bwynt i’r henoed.

Roedd yr aelodau’n teimlo bod angen mwy o ddeialog rhwng cynghorwyr a chwmnïau bysus yn enwedig First Cymru, i drafod lle gellir gwneud newidiadau er budd preswylwyr Abertawe ac i helpu cwmnïau bysus gynyddu niferoedd teithwyr. Cadarnhaodd Jane Reakes-Davies o First Cymru ei bod yn awyddus i siarad â chynghorwyr a swyddogion perthnasol am rai gwasanaethau ac am y nifer cynyddol sy’n eu defnyddio.

Codwyd y mater paham nad yw pobl yn dal bysus a pham y mae niferoedd yn lleihau a phwysigrwydd gwrando ar wybodaeth leol hefyd gan y Gweithgor. Dywedodd Cadeirydd Cardiff Bus, y Cyng. Christopher Lay, fod angen tynnu sylw cwsmeriaid at yr hyn sy’n cael ei wneud yn iawn o ran cludiant cyhoeddus yn Abertawe, er enghraifft, pa mor gyflym y gallwch gyrraedd canol y ddinas ar gyfnodau prysur o’i gymharu â char. Cytunodd y Cyng. Thomas nad yw buddion dal bws yn cael digon o gyhoeddusrwydd a bod hefyd angen newid canfyddiadau’r cyhoedd.

Holwyd First Cymru gan y Gweithgor ynghylch nifer o faterion gan gynnwys:

  • Sut mae First Cymru’n cyfrifo’i brisiau wrth dendro i’r cyngor ar gyfer llwybrau cymorthdaledig tendr agored.
  • A yw First Cymru wedi meddwl am sut i leihau segura gan fysus drwy ddiffodd y motor wrth oleuadau traffig coch (i fysus heb y dechnoleg stopio-cychwyn)
  • Pa anogaethau o ran tocynnau a gynigir ar hyn o bryd, ac roedd y Gweithgor yn teimlo y dylai anogaethau fod ar gael drwy ddulliau eraill, nid trwy ap First Cymru yn unig.
  • Defnyddio tocynnau ar draws gwasanaethau: Pam nad yw pob gweithredwr yn gallu derbyn tocynnau

Mae’r Cyng. Lyndon Jones, cynullydd y Gweithgor, wedi ysgrifennu at y Cyng. Thomas i fyfyrio ar ganfyddiadau’r Gweithgor ac mae wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig erbyn 30 Awst 2021. Cliciwch yma i weld y llythyr hwn sy’n cynnwys manylion llawn yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn a’r cwestiynau a gyflwynwyd gan aelodau’r cyhoedd. Yma byddwch hefyd yn gallu gweld yr holl adroddiadau a gyflwynir, clywed recordiad o’r cyfarfod llawn a gynhaliwyd a darllen y llythyr ymateb oddi wrth y Cyng.Thomas pan gaiff ei dderbyn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.