Aelodau Craffu’n pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu da gyda’r holl gynghorwyr ynghylch gwaith adferiad a thrawsnewid

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ag Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros yr Economi, Strategaeth a Chyllid, y Cyng. Rob Stewart i fonitro a herio camau gweithredu’r cyngor mewn perthynas â chynllun adferiad a thrawsnewid y cyngor, ‘Abertawe – Cyflawni Pethau’n Well gyda’n Gilydd’.

Tynnodd y Cyng. Stewart sylw at y ffaith er bod ffocws ar adferiad, mae amserau heriol o’n blaenau gan fod y pandemig gyda ni o hyd, sy’n achosi pwysau parhaus ar wasanaethau.

Gofynnodd y Pwyllgor ynghylch sefyllfa Cyngor Abertawe o ran gwaith adferiad a thrawsnewid o’i chymharu â chynghorau eraill, a chlywodd fod Cyngor Abertawe wedi llwyddo i beidio â lleihau gwasanaethau allweddol, a’i fod wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i edrych ar yr hyn y mae cynghorau eraill yn ei wneud, ac mae gwaith Abertawe fel cyngor trawsnewid, o gymharu, wedi cynnal ei arfer da.

Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar gyfathrebu â chynghorwyr ynghylch ceisiadau i’r Gronfa Adferiad Economaidd. Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo y dylai’r broses ar gyfer ceisiadau i’r Gronfa Adferiad Economaidd, grantiau i fusnesau etc. gael ei symleiddio i osgoi oedi diangen wrth eu prosesu.

O ran y strwythur llywodraethu ar gyfer ‘Abertawe – Cyflawni Pethau’n Well gyda’n Gilydd’ a’r trosolwg o ffrydiau gwaith, gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynghylch llinellau a mecanweithiau adrodd, a chynrychiolaeth cynghorwyr a’u cynnwys wrth gyflwyno’r cynllun.

Yn ogystal â rhoi adroddiadau adrodd ffurfiol i’r Pwyllgorau Craffu a Llywodraethu ac Archwilio, pwysleisiodd Aelodau’r Pwyllgor bwysigrwydd cyfathrebiadau da â’r holl gynghorwyr o ran gwaith adferiad a thrawsnewid.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Gynghorwyr Craffu drwy danysgrifio i’n cylchlythyr misol yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.