Cynnydd yn y defnydd dyddiol o lwybrau beicio yn Abertawe

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu’r Panel Datblygu ac Adfywio ar ddechrau mis Tachwedd 2021 i drafod Adroddiad Diweddaru Cynllun Teithio Canol y Ddinas.

Adroddwyd bod thema Creu Lleoedd gref ar waith, gan wneud canol y ddinas yn fwy hygyrch a lleihau dibyniaeth ar geir preifat, gyda’r bwriad o wella cysylltedd yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas.

Esboniodd swyddogion fod Cyngor Abertawe bellach yn ceisio deall a rhagweld patrymau traffig ar ôl y pandemig, gan ystyried datblygiadau prosiectau mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, wrth y Panel fod mannau storio beiciau diogel wedi’u gosod yn safle Parcio a Theithio Fabian Way, gan ystyried nifer y bobl sy’n beicio i mewn i’r ddinas. Gosodwyd cysgodfeydd beiciau niferus yng nghanol y ddinas, a bydd datblygiadau newydd yng nghanol y ddinas yn ystyried darpariaethau storio beiciau i annog gweithwyr ac ymwelwyr i feicio.  Amlygodd swyddogion fod anghenion canol y ddinas yn newid ac mae technoleg newydd yn newid dulliau teithio.

Mae’r Cynghorydd Jeff Jones, cynullydd y Panel, wedi ysgrifennu at y Cyng. Thomas i fyfyrio ar farn y Panel ac mae wedi gofyn am eglurhad ar y data meintiol y tu ôl i’r ystadegau, sy’n awgrymu bod cynnydd yn nifer y beicwyr yn Abertawe, gan wahaniaethu rhwng y rheini sy’n beicio er hamdden a/neu waith.

Mae’r Cyng. Thomas wedi ymateb i gadarnhau bod gan yr awdurdod nifer o declynnau cyfrif beiciau awtomatig sydd wedi’u gosod ar isadeiledd beicio strategol ledled y sir. Mae’r rhain wedi dangos cynnydd cyffredinol yng nghyfanswm nifer y beicwyr sy’n defnyddio’r llwybrau beicio ond ni allant wahaniaethu rhwng dibenion teithiau.

Ychwanegodd ‘Cynyddodd teithiau ar gefn beic yn sylweddol yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, y mae’n ymddangos iddynt gael eu hysgogi gan gynnydd mewn teithiau hamdden yn sgîl cau busnesau a gweithleoedd Yn 2021, erys llifoedd beicio dyddiol ar y lefel hon, a byddai hyn yn tueddu i awgrymu, er mai hamdden oedd achos y cynnydd cychwynnol, fod pobl wedi parhau i feicio am ddibenion amgen wrth i’r cyfyngiadau lacio. Fel rhan o welliannau teithio llesol cyfredol, mae teclynnau cyfrif beiciau’n cael eu gosod fel rhan o’r llwybrau newydd, a gwneir cais am grant penodol i ehangu’r ardal y gellir ei chwmpasu.’

I ddarllen y llythyr a anfonwyd i aelod y Cabinet a’r un a dderbyniwyd oddi wrtho, ac i weld yr holl ddiweddariadau yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.