Cytundeb cyfreithiol wedi’i gwblhau ar gyfer y bartneriaeth addysg ranbarthol newydd, Partneriaeth

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar y Panel Perfformiad Addysg ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau yn ddiweddar i drafod y Bartneriaeth Addysg Ranbarthol.

Y Panel yn falch o glywed bod y cytundeb cyfreithiol ar gyfer y bartneriaeth addysg ranbarthol newydd, Partneriaeth, wedi’i sefydlu gyda phob un o’r tri awdurdod lleol (Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro) yn cytuno iddo yn eu cyfarfodydd Cabinet unigol yr hydref hwn.

Bydd y cytundeb cyfreithiol hwn bellach yn caniatáu i’r Bartneriaeth gael Cyd-bwyllgor a all ddechrau gwneud penderfyniadau. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys strwythur llywodraethu cryf sy’n cynnwys Gr?p Cynghorwyr Craffu.

Hysbyswyd aelodau’r panel y byddai angen dirwyn y bartneriaeth addysg  ranbarthol flaenorol, ERW, i ben o hyd drwy gau’r cyfrifon. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg y bydd yr holl awdurdodau lleol gwreiddiol a fu’n aelodau o ERW yn cwrdd â’r costau sy’n codi o ddirwyn ERW i ben.

Dylai’r strwythur staffio fod yn ei le erbyn diwedd mis Ionawr 2022, a hysbyswyd y Panel fod maint y sefydliad wedi lleihau’n fawr, ac adlewyrchir hyn yn y staffio.

Cliciwch yma i weld yr holl drafodaethau a diweddariadau a dderbyniwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.