Sut mae Cyngor Abertawe’n gwella sut mae’n cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Bydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau yn cwrdd ar 26 Ionawr i asesu effaith yr Adroddiad Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau. Bydd cynghorwyr Craffu yn mynd ar drywydd y cynnydd a wnaed yn erbyn cyfres o argymhellion a gynigiwyd gan yr ymchwiliad y derbyniwyd pob un ohonynt gan y Cabinet yn ôl ym mis Tachwedd 2019.

Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried ‘sut gall y cyngor wella’r ffordd y mae’n bodloni ac yn ymgorffori’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)’.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod Cyngor Abertawe’n trin pobl yn deg and mae saith ffordd y gall y cyngor wella sut mae’n gwneud hyn:

  1. Cadw llygad agos ar y darlun cenedlaethol a sut mae’n effeithio arnom yn lleol
  2. Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor
  3. Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy’n bodloni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i’w hymgorffori
  4. Gwella hygyrchedd gwasanaethau’r cyngor
  5. Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt
  6. Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu
  7. Diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y cyfarfod dilynol hwn yn agored i’r cyhoedd, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd gyfrannu. E-bostiwch unrhyw gwestiynau neu bwyntiau yr hoffech eu codi i craffu@abertawe.gov.uk

Mae dolenni i fersiynau gwahanol o’r adroddiad ymchwiliad craffu ar gael isod:

Cliciwch isod i weld adroddiad Aelod y Cabinet:

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.