Cynghorwyr Craffu’n trafod Cynllun Staffio mewn Argyfwng ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr, gwnaeth Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd drafod y Cynllun Staffio mewn Argyfwng.

Clywodd y Panel fod y Gyfarwyddiaeth wedi bod yn pryderu am y ddau i dri mis diwethaf am allu recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Yn y cyfnod hwn, defnyddiwyd staff o ardaloedd eraill y gwasanaeth i helpu a chefnogi, fel bod plant sy’n derbyn gofal a’r rheini ar y gofrestr amddiffyn plant yn parhau i gael eu gweld pan fo angen, a bod ymweliadau ac adolygiadau statudol yn cael eu cynnal ar amser.

Gofynnodd Aelodau’r Panel am yr anhawster o ran recriwtio i’r gwasanaeth a chlywsant fod yr awdurdod wedi ceisio cynyddu cyflogau yn y gorffennol i ddenu pobl, ond nid oedd hyn wedi llwyddo gan fod awdurdodau eraill wedi gwneud yr un peth. Holodd y Panel a oedd unrhyw strategaethau tymor hwy ar waith, sut oedd y cyflenwad myfyrwyr ac a oedd unrhyw gysylltiadau â phrifysgolion myfyrwyr posib.

Clywodd y Panel y cynhaliwyd trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch strategaethau tymor canolig a thymor hwy, megis cyfraddau tâl ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a sut y gellir monitro’r farchnad asiantaethau. Mae’r Awdurdod hefyd yn cryfhau cysylltiadau â phrifysgolion ac yn cefnogi staff i ddilyn cymwysterau.

Amlygodd Aelodau’r Panel fod y sefyllfa’n ymwneud â llwyth achosion hefyd ac nid tâl yn unig, a gofynnwyd a oes unrhyw fesurau y gall y cyngor eu hystyried o ran mynd i’r afael â llwyth gwaith gweithwyr cymdeithasol. Clywodd y Panel fod y model a ddefnyddir yn Abertawe wedi cael ei herio’n ddiweddar ac efallai fod gan rai uwch-weithwyr cymdeithasol lwyth achosion sy’n uwch nag arfer. Fodd bynnag, mae swyddi ychwanegol ar gyfer gweithwyr cymorth i deuluoedd wedi’u llenwi a dylai hyn wneud gwahaniaeth yn y flwyddyn newydd.

Gwnaeth y Panel hefyd drafod dadansoddiad o’r Tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd cyfan, gan nodi bod angen pobl â sgiliau, gwybodaeth a dawn ac y dylai’r awdurdod fod yn annog y bobl hyn i ymgymryd â rolau allweddol ac nid chwilio am bobl a chanddynt radd yn unig. Teimlodd y Panel hefyd y dylai’r awdurdod ystyried rhoi proses drosi ar waith gyda’r prifysgolion.

Clywodd y Panel fod y Gyfarwyddiaeth yn cydnabod yn llwyr werth yr holl staff a’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys unigolion nad ydynt yn weithwyr cymdeithasol cymwys, ac maent yn trafod y posibilrwydd o gyrsiau trosi gyda phrifysgolion. Fodd bynnag, mae rhai gofynion statudol yn berthnasol ar gyfer penodi gweithwyr cymdeithasol cymwys i rolau penodol ac mae prinder gweithwyr cymdeithasol ar gyfer y rolau hyn.

Cliciwch yma i weld yr holl bynciau eraill a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.