Diweddariad gan Ysgol Gyfun Penyrheol

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu’r Panel Perfformiad Addysg yn ddiweddar â Phennaeth Gweithredol a Chadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Gyfun Penyrheol i drafod y cynnydd y mae’r ysgol wedi’i wneud ers yr arolygiad Estyn diwethaf. Canolbwyntiodd y panel yn benodol ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag argymhellion Estyn ym meysydd llythrennedd a rhifedd a chynllunio i fynd i’r afael ag addysgu ac asesu.

Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed am lawer o’r cynnydd a wnaed gan gynnwys:

  • Y pwyslais clir ar wella dysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm
  • Defnyddio strategaethau cadarnhaol i wella ymddygiad disgyblion ac agweddau at ddysgu
  • Y Cynllun Gwella Ysgolion Dros Dro sy’n canolbwyntio’n glir ar les ac ymddygiad disgyblion
  • Parodrwydd i weithio gydag ysgolion eraill, yn ogystal â rhannu gwybodaeth, dysgu a phrofiad

Roedd aelodau’r panel yn bryderus i glywed am y cynnydd mewn problemau sy’n ymwneud ag ymddygiad ers dechrau’r pandemig ond fe’u calonogwyd i glywed bod yr ysgol wedi bod yn defnyddio nifer o strategaethau gwahanol i fynd i’r afael â hyn.

Clywodd y panel fod Cynllun Gwella’r Ysgol yn un dros dro ar hyn o bryd, gyda’r diben o weithio drwy’r pandemig gyda ffocws clir ar les ac ymddygiad. Tynnodd y Pennaeth Gweithredol sylw at y ffaith bod y gefnogaeth yr oedd wedi’i chael gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys y gefnogaeth gan yr Ymgynghorydd Gwella Ysgolion dynodedig, wedi bod yn rhagorol.

Llongyfarchodd y panel y Pennaeth Gweithredol, y Corff Llywodraethu a staff yr ysgol am eu gwaith caled parhaus wrth symud yr ysgol yn ei blaen, yn enwedig o ystyried yr anawsterau a’r heriau a achoswyd gan y pandemig. Teimlai aelodau’r panel yn dawelach eu meddwl fod darpariaeth dda ar waith i ddarparu gwelliant parhaus.

Cliciwch yma i weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.