Cynghorwyr Craffu’n trafod Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Ffotograff: Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Yn ddiweddar, ystyriodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) fel rhan o’i waith parhaus i fonitro perfformiad y BGC. Canolbwyntiodd aelodau’r Pwyllgor ar gyflawni amcanion lles y BGC, sef ‘y Blynyddoedd Cynnar’ a ‘Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda’.

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod y BGC yn chwarae rhan allweddol mewn gweithio mewn partneriaeth a meithrin perthnasoedd, fodd bynnag, roedd aelodau’r Pwyllgor yn teimlo bod rhywfaint o ddryswch o hyd ynghylch rôl a hynodrwydd y BGC, h.y. beth yw cyflawniadau’r BGC yn erbyn cyflawniadau y gellid eu priodoli i unigolion, sefydliadau neu bartneriaethau eraill.

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn cydnabod bod llawer o waith da wedi’i wneud ar draws ffrydiau gwaith ac y gall fod yn achos o wneud y BGC yn fwy gweladwy a hyrwyddo’r BGC fel y corff sy’n achosi newid cadarnhaol.

Anogodd y Pwyllgor hefyd negeseuon rhagweithiol am waith y BGC, a phenderfyniadau’r Cydbwyllgor i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a phroffil y BGC.

Er mwyn helpu i graffu’n effeithiol ar berfformiad, roedd y Pwyllgor wedi galw ar y BGC yn flaenorol i wella ei fframwaith perfformiad er mwyn dangos tystiolaeth well o’r gwahaniaeth diriaethol y mae’r BGC yn ei wneud a gwella eglurder camau gweithredu a chanlyniadau cyfarfodydd. Roedd aelodau’r Pwyllgor felly’n falch o glywed y bydd y Cyd-bwyllgor yn cael trafodaeth â ffocws ar hyn, a bod gwaith wedi’i wneud i wella’r fframwaith ar gyfer cyflawni gwaith, data sylfaen a mesur llwyddiant i gefnogi adrodd ar berfformiad.

Cliciwch yma i weld popeth a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.