Felly, nawr bod etholiadau lleol 2022 wedi dod i ben, beth sydd nesaf ar gyfer Craffu?

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cyngor yn cael ei gynnal ar 24 Mai 2022. Yn y cyfarfod hwn, caiff Arweinydd y Cyngor ei ethol a bydd yr Arweinydd yn cyhoeddi enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd fel Aelodau’r Cabinet.

Byddwn hefyd yn darganfod pa Gynghorwyr a fydd yn eistedd ar Bwyllgor y Rhaglen Graffu a phwy fydd Cadeirydd y pwyllgor.  

Mae Pwyllgor Rhaglen Graffu’r cyngor yn gyfrifol am gytuno ar waith y tîm craffu ac mae ganddo amrywiaeth o ddulliau i gynnal y gwaith hwn a gwneud gwahaniaeth:

  • Gellir ymchwilio’n fanwl i fater a byddai hyn yn gofyn am gasglu amrywiaeth eang o dystiolaeth, gan arwain at gyhoeddi adroddiad gyda chasgliadau ac argymhellion.
  • Bydd llawer o faterion yn cael eu trafod fel rhan o waith monitro perfformiad a chyllid parhaus gwasanaethau, y mae’r tîm craffu’n ei wneud drwy ei baneli perfformiad.
  • Gellir ymdrin â materion eraill mewn cyfarfodydd gweithgor untro sy’n canolbwyntio ar bwnc penodol.

Bydd Rhaglen Waith Craffu dda’n cynnwys pryderon y gymuned ynghyd â phroblemau sydd o bwysigrwydd strategol i’r cyngor. Hoffem eich mewnbwn i helpu cynghorwyr craffu i benderfynu pa broblemau y dylid eu hystyried wrth iddynt sicrhau bod aelodau’r Cabinet yn atebol a herio gwella gwasanaethau.

Anogir unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe i gyfrannu at waith y tîm craffu drwy awgrymu materion sy’n peri pryder.

Os oes gennych bwnc neu fater yr hoffech i Gynghorwyr Craffu ei ystyried, llenwch ein harolwg Craffu isod:

Sylwer: I ddarparu adborth yn Gymraeg dewiswch ‘Cymraeg’ o’r ddewislen yn ochr dde uchaf y sgrîn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.