Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Awst, bydd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn ystyried goblygiadau hyn i blant a phobl ifanc. Bydd cynghorwyr yn cwrdd â Phrif Swyddog Addysg y cyngor i drafod:
- Beth sydd wedi newid neu beth fydd yn newid?
- Beth yw’r goblygiadau i blant a phobl ifanc/teuluoedd, ysgolion, yr awdurdod lleol?
- Sut rydym yn paratoi ar gyfer y newidiadau?
- Ydym yn gweithio gydag eraill i baratoi?
- Beth yw’r gwelliannau allweddol yn y newidiadau hyn?
- Pwy fydd yn elwa fwyaf/lleiaf o’r newidiadau?
- Beth yw’r goblygiadau ariannol disgwyliedig?
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os hoffech ddod neu ofyn cwestiwn, rhowch wybod i’r Tîm Craffu trwy ymateb i’r blog hwn, e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu ffonio (01792) 637256.
Leave a Comment